Carchar i leidr a 'throseddwr cyson' o Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 30 oed o Ddinbych wedi'i garcharu am chwe blynedd ac wyth mis yn dilyn digwyddiad mewn garej yn y dref ym mis Ebrill.
Am 21:24 ar 29 Ebrill fe gafodd yr heddlu eu galw wedi i ddyn fynd i'r siop yn garej Shell a mynnu arian. Dihangodd y dyn gydag arian o'r til.
Cafodd Robert Shane Hughes ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad a'i gyhuddo o ladrata, ymosod ac o fod ag arf yn ei feddiant.
Wedi'r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil Harrison o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn ddigwyddiad cas lle dioddefodd dynes ifanc oedd yn gweithio yn y garej ymosodiad.
"Bydd y ddedfryd yma yn cael effaith enfawr yn lleol.
"Mae Hughes yn droseddwr cyson, gyda hanes o fod yn anonest - felly mae'r ddedfryd yn gwneud Dinbych a Gogledd Cymru yn llefydd mwy diogel gydag o dan glo," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018