Rhan o'r M4 ar gau bum awr wedi damwain ddifrifol

  • Cyhoeddwyd
Traffig ar yr M4 wedi damwainFfynhonnell y llun, Chris Bell

Mae Heddlu'r De'n annog gyrwyr i beidio â theithio ar ran o draffordd yr M4 yn dilyn damwain ddifrifol.

Fe ddigwyddodd y ddamwain - oedd yn ymwneud ag un car, yn ôl y gwasanaethau brys - rhwng cyffyrdd 37 ger Porthcawl a 38 Margam, i gyfeiriad y gorllewin.

Mae'r ffordd wedi bod ar gau am dros bum awr ac mae yna dagfeydd o hyd at bum milltir.

Ffynhonnell y llun, Samantha Oakes
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod yna dagfeydd sylweddol ar lôn orllewinol yr M4

Y disgwyl yw na fydd y draffordd - sydd wedi bod ar gau ers 15:30 - yn ail-agor am beth amser eto.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae peth oedi ar y lôn orllewinol ac mae'r ffyrdd eraill yn yr ardal hefyd yn eithriadol o brysur."