Menyw 28 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw a dyn wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd wedi gwrthdrawiad ar lôn orllewinol yr M4.
Bu farw'r fenyw 28 oed yn y fan a'r lle wedi'r digwyddiad am tua 15:00 ddydd Mawrth oedd yn ymwneud ag un cerbyd.
Cafodd gyrrwr y car BMW X5 llwyd - dyn 31 oed - ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Roedd y draffordd ar gau rhwng cyffordd 37 ger Porthcawl a chyffordd 38 Margam am bron i saith awr.
Bu'n rhaid cau'r lôn ddwyreiniol am gyfnod er mwyn caniatáu i'r ambiwlans awyr lanio.
Roedd y lôn orllewinol ar gau wrth i'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad ond roedd wedi ail-agor erbyn 22:00.
Mae plismyn arbenigol yn rhoi cymorth i deulu'r fenyw fu farw.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion, unrhyw un a welodd y car yn y munudau blaenorol neu sydd â lluniau dashcam perthnasol.