Hayley Clarke: Priodi yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cymru Fyw yn rhannu profiadau unigryw pobl Cymru gyda'r Gwasanaeth Iechyd, i nodi 70 mlynedd ers ei sefydlu.
Yn 2014, roedd Hayley Clarke yn ddifrifol wael yn yr ysbyty. Ond doedd hynny ddim yn ddigon i'w rhwystro rhag priodi - ac hynny yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Hayley, sydd o ardal Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol ond bellach yn byw ym Mangor, wedi bod yn byw gyda chlefyd Crohn ers ei bod yn 17 oed.
Ond yn 2013 fe aeth pethau o ddrwg i waeth ac yn dilyn cymhlethdodau a sawl llawdriniaeth, cafodd ei rhoi mewn coma.
Fe wnaeth y doctoriaid hyd yn oed awgrymu y dylai'r peiriant oedd yn helpu Hayley i anadlu gael ei ddiffodd.
Ond ychydig fisoedd yn unig yn ddiweddarach, roedd Hayley yn priodi yn yr ysbyty - y briodas gyntaf o'i math mae'n debyg.
"Oeddan ni fod i briodi ym mis Mai 2014 eniwe," meddai.
"Ar ôl pum mis o salwch yn y 'sbyty, 'nathon ni decidio bod ni'n mynd i briodi yn Ward Cybi a oedd pawb yn reit excited, ac o be' dwi 'di weld dwi'm yn meddwl bod neb arall wedi [priodi mewn ysbyty].
"Nesh i feddwl 'neith neb adael i fi 'neud hyn ond wedyn 'nath o ddim cymeryd llawar i droi mraich i!"
Roedd Hayley yn gaeth i'w gwely yn Ysbyty Gwynedd am gyfnod o chwe mis, ac wedyn mewn ysbyty ym Manceinion am wyth mis arall.
Bu'n rhaid iddi ail-ddysgu cerdded a doedd hi ddim yn bosib iddi fwyta'n iawn am naw mis.
Yn dilyn cyfnodau hir yn yr ysbyty, roedd Hayley i ffwrdd oddi wrth ei gŵr David a'r merched am bron i flwyddyn arall, tra'n byw gyda ei nain am ei bod angen gofal dyddiol.
Doedd dim byd wedi ei pharatoi rhag bod ar wahân i'w merched ifanc am gyfnod mor hir, meddai.
Mae Hayley yn parhau i gael triniaeth a byw gyda chlefyd Crohn, ond mae ansawdd ei bywyd yn dda a mae hi wrth ei bodd fod y teulu gyda'i gilydd unwaith eto.
Felly faint o le i ddiolch sydd gan Hayley i'r doctoriaid a'r nyrsys fu'n edrych ar ei hôl?
"Oeddan nhw'n grêt efo fi a ma' nhw'n dal yn grêt," meddai. "O'r GP i fyny at y surgeons sy' wedi bod efo fi - does 'na ddim byd 'dyn nhw methu'i 'neud," meddai.
"Dwi'n teimlo ella bod pobl ddim yn gwerthfawrogi nhw gymaint a dylsa nhw.
"Maen nhw o dan gymaint o straen a dim appreciation o gwbl gan rai pobl.
"Welish i lot oedd yn mynd ymlaen... nyrsys yn rhedag o un lle i'r llall... dwi'm yn gw'bod sut maen nhw'n 'neud o."