Yr enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ers 1948

  • Cyhoeddwyd
Aneira Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Aneira Thomas, babi cyntaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Aneira Thomas oedd y babi cyntaf i gael ei geni ar y Gwasanaeth Iechyd, a hynny un funud wedi hanner nos ar 5 Gorffennaf 1948 yn Ysbyty Dyffryn Aman, Sir Gâr.

Mae 'na filiynau o fabis wedi dod i'r byd ers hynny, gyda thua 700,000 yn cael eu geni bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Ond tybed faint o'r rheiny, fel Aneira, sy'n cael enwau Cymreig?

Gydag ychydig o gymorth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), rydym wedi llunio rhestr o enwau Cymreig poblogaidd yng Nghymru a Lloegr ers sefydlu'r NHS 70 mlynedd yn ôl.

Bob hyn a hyn, mae rhestr o'r 100 enw mwyaf poblogaidd ar blant yng Nghymru a Lloegr yn cael ei chyhoeddi. Mae'r enwau isod i gyd wedi ymddangos yn un neu fwy o'r rhestrau yma ers 1948.

Efallai byddwch chi'n synnu o weld pa enwau sydd yno, a pha rai sydd ddim!

Fe ddechreuwn ni gyda'r merched...

Enwau merched

Bethan

Enw poblogaidd, yn enwedig ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Yn 2016, cafodd 90 o fabis eu henwi yn Bethan yng Nghymru a Lloegr.

Cerys

Ffurf byrrach o Ceridwen ydy Cerys ac, am gyfnod byr rhwng 1999 a 2004, roedd Cerys yn enw poblogaidd iawn yng Nghymru a Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actores Erin Richards yn adnabyddus o'i gwaith ar gyfresi fel Gotham a Breaking In, a chyn hynny Mosgito ar S4C

Erin

Daw Erin o air Celtaidd am Iwerddon ac mae'n enw poblogaidd mewn nifer o ieithoedd. Mae Erin wedi ymddangos yn y rhestr 100 uchaf bob blwyddyn ers 1996.

Glynis

Fe ymddangosodd Glynis yn y rhestr 100 uchaf unwaith yn unig, a hynny yn 1954. Erbyn heddiw mae'n enw anghyffredin iawn.

Lynne

Fe all Lynne fod yn fersiwn byrrach o'r enw Eluned, neu'n deillio o'r gair Llyn. Bu'n enw poblogaidd yn y 50au a 60au - tybed os oedd poblogrwydd y gantores Vera Lynn yn ffactor?

Megan

Enw poblogaidd iawn ers y 1990au, ac ymhlith y 10 enw mwyaf poblogaidd i ferched yng Nghymru a Lloegr rhwng 1996 a 2004. Mae'n enw poblogaidd yn America hefyd. Tybed os fydd Megan yn parhau i fwynhau'r un poblogrwydd yn dilyn yr holl sylw i Meghan Markle?

Morgan

Enw poblogaidd i ferched a bechgyn, a bu yn y 100 uchaf i ferched rhwng 1998 a 2006.

Rhiannon

Rhwng 1996 a 2000 roedd tua 600 o ferched bob blwyddyn yn cael eu henwi yn Rhiannon yng Nghymru a Lloegr. Erbyn 2016, roedd y ffigwr lawr i 25.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr enw Siân yn boblogaidd yn yr 80au a'r 90au, cyfnod pan oedd y cyflwynydd tywydd Siân Lloyd yn amlwg ar y cyfryngau

Siân

Enw poblogaidd iawn rhwng 1984 a 1999, ond yn llawer mwy anghyffredin i fabis heddiw.

Tegan

Mae'r enw Tegan yn deillio o'r gair 'teg', ac yn enw ar hen sant Cymreig. Roedd yn y 100 uchaf yn 2003 a 2006.

Enwau bechgyn

Alan

Enw sant cynnar o Gymru ddaeth yn esgob yn Kemper, Llydaw. Roedd Alan yn enw poblogaidd iawn i blant rhwng y 40au a'r 80au.

Arthur

Enw poblogaidd iawn ar ddechrau'r 20fed ganrif, ond ar ôl y 50au fe ddiflannodd o'r 100 uchaf. Heddiw, mae'n ffasiynol unwaith eto - yn 2016, Arthur oedd y 30ain enw mwyaf poblogaidd i fechgyn yng Nghymru a Lloegr.

Dylan

Ers y 1990au mae'r enw Dylan wedi dod yn boblogaidd iawn, yn enwedig yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dylanwad Dylan Thomas - y bardd yn darlledu yn 1948, blwyddyn sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd

Evan

Mae lle i gredu mai Evan (neu Efan) yw'r ffurf Gymreig ar yr enw John. Dyma enw fu'n amlwg ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac wedi dod nôl yn boblogaidd yn ddiweddar gan ymddangos yn y rhestr 100 uchaf rhwng 2004 a 2013.

Gareth

Roedd Gareth yn enw poblogaidd iawn rhwng y 50au a'r 90au, ond mae'n enw anghyffredin i fabis erbyn heddiw. Mae'n anodd credu mai dim ond 12 babi gafodd eu henwi yn Gareth yng Nghymru a Lloegr yn 2016.

Kai

Roedd Kai (neu Cai yn Gymraeg) yn swyddog yn llys y Brenin Arthur ac mae'n enw poblogaidd mewn nifer o ieithoedd ar draws y byd. Mae'n hen enw sydd wedi dod nôl i boblogrwydd ers 1998.

Martyn

Mae Martyn, oedd yn boblogaidd rhwng y 50au a'r 80au, yn fersiwn Cymraeg o'r enw Martin. Ond erbyn 1996, dim ond tri babi gafodd eu henwi yn Martyn!

Morgan

Enw poblogaidd i ferched a bechgyn, a bu yn y 100 uchaf i fechgyn rhwng 1998 a 2009.

Owen

Enw amlwg ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac wedi dod nôl yn ffasiynol ers canol y 90au.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o blant y 90au - maswr Cymru a'r Scarlets, Rhys Patchell

Rhys

Roedd yr enw Rhys yn y 100 uchaf rhwng 1994 a 2012. Roedd y fersiwn Saesneg, Reece, hefyd yn boblogaidd tua'r un cyfnod.

Trevor

Cyfuniad o'r geiriau Cymraeg 'Tref' a 'Môr' yw Trefor (a Trevor), ac enw ar sawl pentref yng Nghymru. Bu yn rhestr y 100 uchaf rhwng 1914 a 1974, ond ddim yn gyffredin o gwbl erbyn heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro Aneurin Bevan, pensaer y Gwasanaeth Iechyd

Beth sy'n dylanwadu ar rieni?

Cafodd babi cyntaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Aneira Thomas, ei henwi ar ôl y sylfaenydd, Aneirin Bevan. Ond beth sy'n dylanwadu ar rieni wrth iddyn nhw enwi eu plant a pham bod rhai enwau'n boblogaidd yn ystod cyfnodau gwahanol?

Yn ôl Heini Gruffudd, awdur y llyfr Enwau Cymraeg i Blant, mae diwylliant poblogaidd yn ddylanwad amlwg:

"Mae'n hollol amlwg gyda'r enw Dylan bod 'na ddau ddylanwad - sef Dylan Thomas a'r canwr Bob Dylan. O ran Trefor - mae'n enw lle wrth gwrs, ond roedd 'na bêl-droediwr adnabyddus o'r enw Trevor Ford [oedd yn chwarae i Gymru yn y 40au a'r 50au]."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Robert Zimmerman ddefnyddio'r enw Bob Dylan ar ôl darllen cerddi gan Dylan Thomas

Dylanwad Cerys Matthews

Beth am yr enw Cerys? O edrych ar y ffigyrau yn fanwl, fe welwn mai 92 o fabis gafodd eu henwi yn Cerys yn 1996. Ond erbyn 1999, y flwyddyn pan wnaeth Catatonia ryddhau eu halbym rhif 1 International Velvet, cafodd 538 o fabis eu henwi'n Cerys.

Mi wnaeth y tuedd yma barhau tan 2009, gyda thua 400-500 o fabis bob blwyddyn yn cael eu henwi yn Cerys yn ystod y cyfnod yma.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd poblogrwydd Catatonia, a'u cantores Cerys Matthews, yn ddylanwad amlwg ar ddiwedd y 90au

Enwau Cymreig?

"Yr hyn sy'n fy synnu ydy bod yr enwau Cymraeg yma wedi cyrraedd y 100 uchaf ar draws Cymru a Lloegr," dywedodd Heini Gruffudd.

Ac mae'n anodd gwybod i sicrwydd beth yw tarddiad rhai enwau, gan eu bod yn boblogaidd mewn nifer o ieithoedd. Mae enwau fel Arthur, Cai a Rhiannon yn ymddangos mewn chwedlau Cymraeg fel y Mabinogi a stori'r Brenin Arthur ond, yn ôl Heini, mae ganddyn nhw gysylltiad ag ardaloedd tu allan i Gymru hefyd:

"Mae'n rhaid cofio bod y chwedlau Cymraeg siŵr o fod wedi eu lleoli yn rhannau o Loegr - maen nhw'n barnu bod Arthur yn dod o'r Hen Ogledd yn Lloegr a rhai yn ei gysylltu â Chernyw. Felly er fod Arthur yn hen enw Cymraeg o ran tarddiad, mae'n hen enw ar draws yr holl wledydd yna."

Efallai o ddiddordeb:

Disgrifiad o’r llun,

Yn y gyfres Hi-de-Hi, roedd Ruth Madoc yn chwarae rhan Gladys Pugh - enw 'nodweddiadol' Gymreig

Enwau anghyffredin

Mae 'na rai enwau sy'n ffasiynol am gyfnod ac yna'n diflannu. Er enghraifft, ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd yr enwau Cymreig Enid, Gladys, Glenys a Gwendoline yn boblogaidd. Ond erbyn sefydlu'r GIG yn 1948, roedd yr enwau wedi diflannu o'r rhestrau enwau mwyaf poblogaidd i ferched.

Dywedodd Heini: "Un peth sydd wedi newid ydy bod 'na fwy o amrywiaeth o enwau Cymraeg erbyn hyn, felly dydy'r enwau Cymraeg ddim yn dueddol o fynd i'r brig o ran poblogrwydd - achos mae pobl yn hoffi rhoi enwau Cymraeg gwahanol i'w plant."

Ffynonellau:

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n cynhyrchu ystadegau enwau ar gyfer Cymru a Lloegr ers 2009. Cyn hynny, roedd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn gyfrifol.

Ers 1996, mae'r 100 enw mwyaf poblogaidd ar blant yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Cyn hynny, roedd y rhestrau 100 uchaf yn cael eu cyhoeddi bob 10 mlynedd, yn mynd yn ôl i 1904.

Mae'r enwau uchod i gyd wedi ymddangos yn y rhestrau 100 uchaf ar ryw adeg yn ystod y 70 mlynedd ddiwethaf, ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd yn 1948. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr ONS, dolen allanol, lle gallwch edrych os yw'ch enw chi yno (gwefan Saesneg).

Mae'r wybodaeth yn berthnasol hyd at 2016, sef y flwyddyn ddiweddaraf mae'r ffigyrau wedi eu cyhoeddi ar ei chyfer.

Hefyd gan y BBC