Oedi wedi i ddau gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Google

Mae dau o bobl wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng pum car ar yr M4.

Cafodd lôn orllewinol y draffordd ei chau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 39 ym Margam a chyffordd 40 ym Mhort Talbot.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru y byddai oedi hir am gyfnod, wrth i'r ddau gafodd eu hanafu gael eu hasesu yn y fan a'r lle.