Gwrthdrawiad difrifol ger maes awyr Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Yr A4118 ger maes awyr AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yr A4118 ger maes awyr Abertawe

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A4118 ger maes awyr Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw oddeutu 09:30 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Mae'r A4118 Ffordd Gŵyr wedi ei chau, ac mae'r ffordd ger y maes awyr hefyd ynghau.

Dywed yr heddlu fod un person wedi ei gludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd gydag anafiadau "sydd yn bygwth ei fywyd."

Maen nhw'n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu ar 101.