Teimladau cymysg ffoadur ac awdur am hen wlad ei dadau
- Cyhoeddwyd
Mae'n cymryd blynyddoedd i ddygymod â bywyd mewn gwlad newydd, yn ôl bardd a dramodydd o Cameroon a ddaeth i Gaerdydd am loches bron i 20 mlynedd yn ôl.
"Yn feddyliol, mi fyddai'n ddigartref am byth," medd Eric Ngalle Charles. "Pan dwi yng Nghymru, dwi'n hiraethu am Cameroon - a phan dwi yn Cameroon, dwi'n hiraethu am Gymru."
Mae ymhlith nifer o lenorion o Gymru a thu hwnt sy'n cymryd rhan mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Fawrth sy'n dathlu ieithoedd a diwylliannau amrywiol y brifddinas.
Mewn 'chwaer-ddigwyddiad' yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun, cafodd cyfieithiadau Cymraeg o waith llenorion sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid yn y brifddinas eu darllen.
Mae'r digwyddiadau'n rhan o brosiect Hen Wlad Fy Nhadau, sy'n cael cefnogaeth gan gyrff yn cynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Llenyddiaeth Cymru, y Groes Goch - a PEN Cymru, sy'n amddiffyn rhyddid mynegiant llenorion ar draws y byd.
Yn y sesiwn gyntaf roedd angen parchu rheol Gymraeg y Brifwyl, ond bydd sawl iaith i'w clywed nos Fawrth yn stiwdio Sunflower&I.
Dywedodd Eric Ngalle Charles ei fod yn ffodus o gael cefnogaeth nifer o unigolion "rhyfeddol, rhyfeddol, rhyfeddol" i setlo yng Nghymru a dechrau ysgrifennu.
Ond bob tro mae'n perfformio o flaen cynulleidfa does dim perthynas yno i'w gefnogi: "Chi'n chwlio am wynebau cyfarwydd ond does 'na neb yna.
"Ond chi'n cyfarfod pobl ddiethr yr ydych yn dod i'w caru fel petasen nhw'n perthyn. Mae'r pethau 'ma'n cymryd amser."
Dyw rhai ffoaduriaid, meddai, "byth yn gallu dod i delerau â'r ffaith eu bod yn byw erbyn hyn mewn lle newydd ac yn gorfod dechrau o'r newydd".
"Mae rhai pobl yma yn gorfforol, ond yn eu meddyliau maen nhw yn Eritrea, Libya, Syria, Cameroon..."
Cychwynnodd y daith i Gymru gyda ffrae deuluol a arweiniodd at ei ddietifeddu. Roedd ochr ei dad o'r teulu wedi gwneud ffortiwn yn y sector bancio, a'i daid yn lywodraethwr trefedigaethol.
Fe fanteisiodd griw smyglo pobl ar y llanc 17 oed oedd yn ceisio cael fisa i astudio yng Ngwlad Belg, a'r canlyniad annisgwyl oedd tocyn unffordd i Rwsia lle cafodd ei adael yn ddigartref gyda cheiniogau i'w enw.
Yn y ddwy flynedd y bu yno bu'n rhaid ennill arian ym mha bynnag ffordd bosib, gan gynnwys dawnsio a thynnu ei ddillad mewn clybiau nos.
Mae'n cyfaddef iddo, mewn cyfyng gyngor, dwyllo cyd-ffoadur o Cameroon yn ariannol ar un achlysur.
Aeth hwnnw ati i ddial arno trwy ei herwgipio o'i hostel ym Moscow a'i ddal am dridiau. "Ges i fy arteithio bron hyd at farwolaeth," meddai.
"Yr hyn wnaeth fy achub oedd clywed llais fy mam yn fy ngheryddu 'os ti'n meiddio cael dy ladd gan bobl ddiethr ym Moscow, dwi am groesi'r dyfroedd i dy ganu o dy fedd er mwyn imi dy ladd eto!'"
Trwy ddysgu Rwsieg o fewn misoedd, fe ddaeth yn gyfieithydd anffurfiol, a dod i gysylltiad â swyddogion mewnfudo wnaeth ei helpu i adael y wlad maes o law.
Fe drefnodd un iddo deithio i Zimbabwe - ag yntau'n dal ond yn 20 oed - gyda phasport person 62 oed o Bulawayo, gan osgoi'r archwiliadau arferol yn y maes awyr.
Ym maes awyr Heathrow, cafodd y pasport ei dderbyn dan drefniant rhwng Zimbabwe a'r DU.
Gwelodd fws National Express i Gaerdydd, ac er gwaetha'r bwriad gwreiddiol i ddychwelyd i Cameroon, fe neidiodd arno gan gofio am ffrind oedd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cafodd ganiatâd yn y pen draw i aros yng Nghymru ar ôl priodi merch leol a chael plentyn - "merch brydferth sy'n siarad Cymraeg ac yn dysgu ychydig o Gymraeg i mi".
Fe ddychwelodd i'w famwlad ddwywaith y llynedd - "nes i gynnal gweithdai ac nes i sôn am Hedd Wyn a'r Gadair Ddu" - ond mae'n anodd o hyd iddo ymweld â'r hen gartref ac aelodau o'i deulu.
"Mae'n sefyllfa annifyr. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ddelio gyda fi."
Erbyn hyn, ac yn rhannol wedi grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Eric Ngalle Charles yn ennill bywoliaeth fel awdur, dramodydd a pherfformiwr.
"Wnes i agor a chau Gŵyl Y Gelli eleni. Pwy fysa' 'di dychmygu hynny?" meddai, gan chwerthin.
Roedd yno i berfformio'i ddrama un-dyn 'The Last Ritual', am ei wythnos olaf cyn gadael Cameroon, a bydd yn ei pherfformio eto yn ystod Gŵyl Lyfrau Caerdydd fis nesaf.
Mae ei lyfr 'Asylum' yn rhoi blas o brofiadau ceiswyr lloches yng Nghymru ac mae wedi golygu blodeugerdd o waith gan lenorion o Gymru a Cameroon.
Mae'n ddiolchgar i'r bobl "sy'n fodlon buddsoddi ynddoch chi fel bod dynol", ond mae hefyd wedi profi hiliaeth, er yn gwrthod gadael i unrhyw ddrwgdeimlad effeithio arno.
"Rwyf wedi profi annynoldeb dyn at ei gyd-ddyn i'r eithaf. Os mae rhywun yn galw enwau arna'i, dyw hynny ddim am symud modfedd o waed o fy nghroen."