Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ymddiheuro am ei sylwadau

  • Cyhoeddwyd
Keyframe #8

Mewn datganiad sydd wedi'i gyhoeddi ddydd Sul mae Eifion Lloyd Jones, llywydd Llys yr Eisteddfod, wedi dweud ei fod yn "ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo yn seremoni Cymru a'r Byd".

Cafodd Mr Lloyd Jones ei feirniadu yn hallt yn ystod wythnos yr Eisteddfod wedi iddo gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa a rhestru'r llefydd amrywiol y bu'n gweithio.

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd fod Mr Roberts wedi treulio cyfnodau "yn gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf".

Ddydd Iau gwrthododd Mr Jones ag ymddiheuro.

'Cyfieithiad yn ymddangos yn fwy niweidiol'

Ddydd Sul ychwanegodd Mr Jones: "Nid oedd unrhyw fwriad ar fy rhan i fod yn hiliol, a bûm yn ymgyrchu erioed o blaid lleiafrifoedd a chenhedloedd o dan ormes.

"Nid oedd y sgript wreiddiol a luniais yn cynnwys y sylwadau sydd wedi tramgwyddo, ond fe'u hychwanegais ar y bore am fod Arweinydd Cymru a'r Byd yn gyd-athro yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, gyda chyfaill agos i mi.

"Tynnu coes hwnnw oedd y bwriad, nid dilorni'r ysgol, y gymuned honno nag unrhyw gymuned arall, ond rwy'n sylweddoli bellach y byddai wedi bod yn ddoethach i mi fod wedi peidio â cheisio ysgafnu peth ar y cyflwyniad."

Dywedodd hefyd: "Mae'n deg nodi, hefyd, fod unrhyw gyfieithiad o'r sylw yn gwneud iddo ymddangos yn fwy niweidiol nag a fwriadwyd ac yn ei dynnu ymhellach oddi wrth y cyd-destun gwreiddiol.

"Dyma ddatgan eto, felly, fod gen i'r parch mwyaf at holl genhedloedd y byd, ond fy mod yn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi gweld mwy nag a fwriadwyd yn y sylwadau byrfyfyr."

Yn dilyn sylwadau Mr Jones roedd yna rai wedi galw am ei ymddiswyddiad fel llywydd Llys yr Eisteddfod ond dywedodd nad oedd yn fodlon camu o'r neilltu.

Ddydd Gwener cafodd Eifion Lloyd Jones ei ailethol yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.