Galw am 'chwyldro' i helpu mamau o fewn byd y theatr
- Cyhoeddwyd
Mae angen newid agweddau ym myd y theatr i wella cyfleusterau ar gyfer mamau sy'n gweithio yn y busnes, yn ôl cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd.
Dywedodd Tamara Harvey iddi ddod yn ymwybodol o'r anawsterau y mae rhieni'n eu hwynebu ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn fuan ar ôl cael ei hail blentyn eleni.
Mae'r actores Sharon Morgan, fagodd ddau o blant wrth ennill bywoliaeth, wedi galw am "chwyldro" i wneud hi'n haws i fod yn fam yn y diwydiant.
Aeth Ms Harvey â'i babi newydd i ymarferion ar gyfer cynhyrchiad diweddara'r theatr yn Yr Wyddgrug, sef 'Home, I'm Darling'.
'Cefnogaeth'
Dywedodd iddi gael "tunnell o gefnogaeth" ond roedd yn anodd cydbwyso gwaith a theulu.
"Mae angen newid y diwylliant, neu rydyn ni'n mynd i golli nifer fawr o bobl arbennig, greadigol, sydd gyda phrofiadau pwysig a difyr i'w rhannu.
"Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni yn trafod rhieni yn unig, ond yn hytrach ry'n ni'n sôn am allu trafod yn agored yn y gweithle yr holl amrywiaeth o gyfrifoldebau gofal," meddai.
Ar y cyfryngau cymdeithasol y gwnaeth Tamara Harvey ddechrau ei hymgyrch i newid y drefn.
Dywedodd bod yr ymateb i'w negeseuon ar ei chyfrif Twitter ei synnu.
"Doeddwn i ddim yn credu fy mod i'n gwneud rhywbeth chwyldroadol drwy drafod yn agored ar Twitter am ba mor anodd mae'n gallu bod i fod yn rhiant sy'n gweithio," meddai.
"Roedd hi'n teimlo'n bwysig achos roedd y bobl oedd yn trydar yn ôl ata'i, neu'n ymateb, neu'n anfon neges breifat, yn dweud 'Mae'n golygu lot dy fod di'n trafod hyn'."
'Pris isel ar ofal'
Mae'r actores Sharon Morgan yn cytuno bod angen newid agweddau, ac mae wedi galw am "chwyldro" i ddod i'r afael â hen broblem.
Ganwyd ei mab Steffan yn 1980 a'i merch Saran yn 1995.
"Nôl yn yr '80au pan oedd fy mab i'n fach, y peth gorau i wneud oedd smalio bod dim plentyn i gael gyda chi. Achos oedd e'n rhyw fath o gyhuddiad bod chi ddim 100% yn y gwaith.
"Erbyn bo fi'n cael Saran yn y '90au, roedd y sefyllfa wedi newid yn yr ystyr bod disgwyl i bob menyw i fynd i'r gwaith. Yn iawn os oedd gennych chi blant, ac roedd pob math o bethau yn gallu'ch helpu chi i, eto, rhoi 100% i'r gwaith a pheidio gadael i'r plant ymyrryd."
Dywedodd Sharon Morgan bod angen "crèche ym mhob theatr" ac i bobl ddod i ddeall sut brofiad yw magu plant a chynnal gyrfa fel actor.
"Y peth mawr sydd angen newid yw taw nid menywod yn unig ddylai fod yn cymryd y cyfrifoldeb dros fagu plant.
"Yn anffodus rydyn ni'n byw, hefyd, mewn cymdeithas sydd yn rhoi pris isel ar ofal yn gyffredinol. Boed hynny i bobl gydag anableddau, hen bobl, eu plant. Ac mae hynny angen newid, ond ry'n ni'n sôn am chwyldro."
Cafodd mudiad o'r enw Parents in the Performing Arts (PiPA) ei sefydlu yn 2015 mewn ymateb i ddiffyg cefnogaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Yn 2017, roedd arolwg ar ran PiPA wedi canfod bod 81% o bobl hunangyflogedig a 57% o bobl wedi'u cyflogi llawn amser yn y diwydiant perfformio wedi gorfod gwrthod cynnig o waith oherwydd cyfrifoldeb i ofalu am rywun.
Trafod heriau'n agored
Dywedodd Tamara Harvey bod cael plant wedi'i gwneud yn "llawer mwy ymwybodol" o sefyllfaoedd ble roedd hi'n gyfrifol am staff oedd yn wynebu heriau tebyg.
"Mae'n gwneud i fi deimlo'n euog iawn, i ddweud y gwir, fy mod i wedi gweithio gyda phobl oedd yn gwneud yr un fath o gydbwyso hurt, yn wynebu heriau anferth, ac oedd ddim wedi sôn am hyn wrtha'i," meddai.
"Y cyfrifoldeb sydd gen i fel cyfarwyddwr artistig theatr yw sicrhau bod y bobl yna yn gallu siarad yn agored am yr heriau yna.
"Fyddwn ni ddim bob tro mewn sefyllfa i helpu, neu'n gallu newid oriau pobl neu helpu i ofalu am eu plant.
"Ond, man lleiaf, dwi'n credu bod cyfrifoldeb arnom i gyd sy'n rhedeg sefydliadau i sicrhau bod pawb sy'n gweithio i ni yn gallu gofyn y cwestiwn."