Frank Serpico a'i amser yng Nghorwen

  • Cyhoeddwyd
Poster y ffilm Serprico o 1973 gydag Al Pacino'n chwarae rhan yr heddwas
Disgrifiad o’r llun,

Poster y ffilm Serprico o 1973 gydag Al Pacino'n chwarae rhan yr heddwas

Mae'n bosib bod y ffilm 'Serpico' o 1973 gyda'r actor Al Pacino yn gyfarwydd i rai ohonoch. Mae'r ffilm yn olrhain hanes heddwas o Efrog Newydd a weithiodd yn gudd er mwyn datguddio heddweision anonest yr NYPD yn y 60au a'r 70au.

Un peth efallai nad ydych chi'n ei wybod yw bod Frank Serpico wedi byw am gyfnod yng Nghorwen ar ôl iddo adael yr heddlu.

Penderfynodd adael yr Unol Daleithiau wedi iddo gael ei saethu mewn cyrch cyffuriau. Roedd y ffaith bod dim un o'i gyd-heddweision wedi galw am gymorth wedi iddo gael ei saethu'n awgrymu fod e wedi gwneud gelynion ymysg ei gydweithwyr, testament i'w waith llwyddiannus yn datgelu llygredd yn y gwasanaeth efallai.

Teithiodd drwy'r Swistir a'r Iseldiroedd am gyfnod cyn gorffen, rhyw ffordd, yng Nghorwen yn 1979.

Ffynhonnell y llun, Phillip Halling
Disgrifiad o’r llun,

Hen dloty Corwen: Safle'r coleg â gyd-sefydlwyd gan Frank Serpico

Roedd yn gyd-sylfaenydd Sefydliad Orissor, a oedd yn chwilio am adeilad mawr er mwyn sefydlu coleg newydd. Cafodd y coleg 'new age' yma a oedd yn dysgu am ffyrdd naturiol i wella'r corff a'r meddwl, a sut i ofalu am eich amgylchfyd ar lefel bersonol a dynol, ei leoli yn hen dloty Corwen.

Mae'n debyg fod y tloty wedi'i gau fel sefydliad i'r tlawd ers blynyddoedd lawer ac roedd yr adeilad ers hynny wedi cael ei ddefnyddio gan wahanol ddiwydiannau, fel ffatri pacio hadau a ffatri gwneud sanau. Ond roedd wedi bod yn wag ers dipyn yn y 70au ac yn dechrau dirywio.

Mae'n beth ffodus iawn eu bod nhw wedi ymddangos pryd wnaethon nhw, neu mwy na thebyg byddai'r hen adeilad wedi dirywio ymhellach a phwy a ŵyr, efallai wedi troi'n adfail erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Kath Evans yn cyfweld â Frank Serpico yn swyddfeydd y North Wales Weekly News yng Nghyffordd Llandudno yn ystod ei gyfnod yn y gogledd

Mae enw Frank Serpico, fel un o sylfaenwyr y mudiad, yn ymddangos ar y lês arwyddodd Orissor er mwyn cymryd perchnogaeth o'r adeilad.

Roedd Serpico yn byw yn yr adeilad ac, yn ôl y sôn, roedd yn cuddio rhag pobl oedd ar ei ôl wedi iddo rhoi tystiolaeth yn erbyn heddweision yn Efrog Newydd. Ond, os oedd yn cuddio, nid oedd yn gwneud job dda iawn ohoni!

Roedd yn cymysgu'n helaeth gyda'r trigolion lleol ac yn ffigwr cyfarwydd yn ei het a siwt wen o gwmpas y pentref.

Dim ond am rhyw flwyddyn roedd yn byw yma - mae'n debyg iddo ffraeo gyda'r sefydliad a gadael tua 1980.

Ffynhonnell y llun, Antonino Dambrosio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Frank Serpico bellach yn 82 oed ac yn byw yn yr Unol Daleithiau

Mae Frank Serpico dal yn fyw heddiw ac yn byw yng ngogledd talaith Efrog Newydd. Yn achlysurol, mae'n darlithio am yr amgylchedd i wahanol sefydliadau, ac mae dal yn lais amlwg yn siarad yn erbyn llygredd yn yr heddlu.

Ond, hyd y gwyddom, dyw Serpico erioed wedi teithio nôl i Gorwen... efallai un dydd?

Diolch i Amgueddfa Corwen ac Y Cyfnod & Corwen Times am eu cymorth gyda'r erthygl yma.

Wnaethoch chi gyfarfod â Frank Serpico tra roedd yn byw yng Nghorwen? Beth am rannu eich profiad?

E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu llenwch y ffurflen isod (dydy'r ffurflen ddim yn ymddangos yn yr ap).