Cludo tri i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar hyd ffordd y B4391
Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bala yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân eu torri allan o ddau gerbyd yn dilyn y gwrthdrawiad ar y B4391 ger Pont Cwm Pydew am tua 17:15.
Cafodd tri pherson eu cludo i ysbyty yn Stoke gan yr ambiwlans awyr, ac fe gafodd person arall eu cludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Does dim gwybodaeth bellach am yr anafiadau, ac fe gafodd y ffordd ei ailagor toc wedi 20:00.