Gobaith o gartref newydd i gerflun arth Llanwrtyd
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y caiff cerflun o arth, a gafodd ei symud o ymyl yr A48 ar ôl cael y bai am achosi damwain yno, ei weld yn yr ardal unwaith eto.
Mynnodd Llywodraeth Cymru fod yr arth bren 10 troedfedd o daldra yn cael ei symud o ymyl y ffordd ger Llanwrtyd ym Mhowys, wedi i yrrwr gwyno ei bod wedi credu bod y creadur yn fyw.
Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw wrth ymyl y ffordd, bu'n rhaid symud yr arth, ac mae wedi bod yn gorwedd â'i chefn at y traffig ers hynny.
Mae'r cyngor tref nawr yn gobeithio ei symud i le newydd.
Wedi ei cherfio o foncyff coeden, roedd yr arth wedi sefyll ger mynedfa hen felin wlan Cambria ers 15 mlynedd.
Ond honnodd gyrrwr fod y cerflun wedi achosi damwain pan fuodd yn rhaid iddi wyro.
O ganlyniad i hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yn rhaid ei symud.
I ddechrau, dywedodd cynghorwyr eu bod yn meddwl mai jôc oedd y gorchymyn, gan fod cerflun mawr o farcud hefyd yng nghanol y dref.
Yn y diwedd, cytunodd Llywodraeth Cymru gyda'r perchennog y dylid ei symud i safle llai peryglus ond lle y byddai'n dal yn weladwy o'r ffordd.
Dri mis yn ddiweddarach, mae'r cerflun yn dal i orwedd ar bwys y ffordd.
Mae disgwyl i gynghorwyr drafod cynllun i'w symud i gae Dolwen ger y dref mewn pryd ar gyfer achlysur codi arian Picnic yn y Parc ar ddiwedd y mis.
Cafodd y tir ei roi i'r cyngor, ac mae'n awyddus i adeiladu trac rhedeg a seiclo yno, yn ogystal â chyflwyno gwelliannau eraill.
"Byddai'n braf cael yr arth yno hefyd," medd y cynghorydd tref, Peter James.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018