Graffiti Natsïaidd: Dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn gafodd ei arestio ar ôl i graffiti asgell dde eithafol ymddangos ar adeiladau yng Nghaerdydd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Roedd swasticas, y slogan "Nazi Zone" a phosteri bygythiol wedi eu gweld gan drigolion Grangetown yn ôl ym mis Mawrth.
Cafodd dyn 19 oed ei arestio ar 20 Medi ar amheuaeth o geisio ysgogi casineb hiliol a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Mae'r dyn o Cheltenham bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018