Ateb y Galw: Daniel Lloyd

- Cyhoeddwyd
Daniel Lloyd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffordd i'w ardal enedigol yn Wrecsam, mae'n argoeli'n gyfnod prysur i brif leisydd Daniel Lloyd a Mr Pinc a chyfarwyddwr cyswllt Theatr Clwyd.
Fe fydd y band yn dod at ei gilydd i berfformio yn yr Eisteddfod ac yng ngŵyl GwyddGig yn yr Wyddgrug dros yr haf. Fe fydd o hefyd yn cyd-gynhyrchu Wrecslam! ar gyfer ei pherfformio yng Nghaffi Maes B yn ystod y Brifwyl.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Yr ardd gefn. Dwi'n byw yn Nyffryn Clwyd ac er mai dim ond gardd fechan sydd gennym mae'n edrych allan dros gaeau godidog Llandyrnog tuag at fryniau Clwyd. Ma'n fendigedig ym mhob tymor - yn ddramatig ac iasol yn y gaeaf ond wrth gwrs, ar ei gorau yn yr haf gyda BBQ, teulu a chwrw!
Dwi ddim yn arddwr ond yn synnu fy hun gyda faint o bleser dwi'n ei fwynhau drwy ofalu am y lawnt lysh a'r Wisteria persawrus.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Mae'r noson gynta' yn portreadu Deco yn The Commitments yn y Palace Theatr yn y West End yn aros yn y cof. Dwi'n cofio profi pob emosiwn mewn ffordd mor eithafol... Ofn, cariad, gwefr, nerfusrwydd a'r hit drydanol o adrenalin wrth gyflawni'r peth.

Daniel fel Deco yn y West End
Roedd y ffilm The Commitments yn ddylanwad enfawr arna i fel hogyn ifanc a daeth fy nyheadau i fod yn actor a cherddor yn sgil gweld y ffilm. Dwi wrth fy modd efo rythm iaith frwnt Roddy Doyle yng nghegau'r band ifanc o Ddulyn sy'n chwarae miwsig soul a'r ffordd mae'r miwsig yn dyrchafu eu disgwyliadau ac yn ehangu eu gorwelion. Ma' ne obaith hyfryd mewn hynny.
Bu'n gyfnod arbennig yn fy mywyd wrth neud y gig 'na. Roedd Elen a'm mhlant Ted a Greta lawr yn Llundain yn ystod y cyfnod ac mi oedd yn fraint i gael treulio'r dyddia' hefo nhw tra'n gneud y dream job gyda'r nos.
Ma'r ffilm a'r sioe yn cyfleu pa mor gyffrous a sbesial yw hi i fod yn aelod o fand.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Direidus. Sensitif. Clown.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Daniel Lloyd - a gweddill aelodau Mr Pinc
Sdim un digwyddiad fel petai, ond yn hytrach, llond trol o atgofion a phrofiadau sy'n gysylltiedig efo brawdgarwch y band. Meddwl am y lads, y gigs, yr ymarfer caled a'r teithio yng nghefn y fan hyd a lled Cymru - 'da ni byth yn bell o'r chwerthin poenus sy'n gneud hi'n anodd i ddal dy wynt ac yn gneud ti chwythu cwrw drwy dy drwyn yn anwirfoddol.
'Da ni'n herllyd, yn tynnu coes o hyd, yn ffraeth ac yn hollol stiwpid. Fel oedolion cyfrifol, parchus ma'n ddihangfa pur a 'da ni'n idiots llwyr yng nghwmni ein gilydd. Dwi'n caru nhw! 'Da ni'n gweithio'n galed a dwi'n edrych mlaen yn arw at y gigs ha' 'ma'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Yn broffesiynol sdim llawer yn codi cywilydd arna'i bellach. Rhwygo trowsus o flaen cynulleidfa. Dim probs. Jocs yn marw ar eu tinau. Been there. Dwi 'di neud yn siâr o bethe hollol cringe ac yn dal i ddychwelyd i'r gêm. Ma'r croen yn galed, mae methiant yn rhan o'r broses ac yn rhywbeth i'w gofleidio!
Go iawn, os dwi'n colli mhen efo'r plant dwi'n teimlo uffernol wedyn. Ar yr adegau hynny lle dwi'n teimlo fel methiant fel rhiant - sdim mwy o gywilydd na hynny rili.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dwi'n crio yn amlach dyddie ma.
Caneuon, dramâu, cyngherddau ysgol - ma' nhw gyd yn pwyso'r botymau! Wnes i gyfarwyddo'r ddrama Cytserau gan Nick Payne yn Theatr Clwyd y llynedd.

Gwenllian Higginson ac Aled Pugh mewn golygfa o'r ddrama Constellations/Cytserau
Drama am gwpwl sy'n cwrdd â'i gilydd mewn aml fydysawdau ac yn datgelu eu hanes drwy gyfresi o olygfeydd byrion sy'n ail adrodd gyda chanlyniadau cynnil, gwahanol, bob tro. Drama gysyniadol arbennig am gariad a cholled. Crio o hyd!
O... ges i un deigryn o lawenydd chwerw-felys yn cledru lawr fy mochau coch wrth deithio ar hyd bypass Y Drenewydd am y tro cynta'. Newid byd. Ma'r lon yna di chwalu hanner awr oddi ar y teithio i Gaerdydd rŵan. Da.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi angen aros i bobl orffen eu prydau bwyd cyn dechrau hwfro'r briwsion. Aparyntli.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mae hyn yn newid yn ddyddiol. O ran y clasuron ma' Pink Floyd - Dark Side of the Moon, Abbey Road - The Beatles a Life in Slow Motion gan David Gray wastad wrth law. Wrth fy modd hefyd gyda Joni Mitchell, Van Morrison, Steely Dan ac wrth gwrs, fy arwyr cerddorol - Queen.
Dwi eisoes di son am The Commitments... ac yn aros efo'r Gwyddelod, dwi methu goroesi heb bodlediad Blindboy. Cerddor ac artist dosbarth gweithiol o Limerick yn Iwerddon sy'n gneud hot-takes arbennig am chwedloniaeth Wyddelig, iechyd meddwl, miwsig, hanes celf, crefydd, bwyd a gwleidyddiaeth. Mae'n gallu gneud synnwyr o'r byd cymhleth fatha neb arall ac yn crefftu straeon mewn ffordd mor unigryw a chlyfar. 5 Seren! Dim notes!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi'n cael diod a pham?
Wel... os yn yfed, sa well ni neud o mewn steil! Be' am sesh gyda Peter O'Toole, Oliver Reed, Richard Burton a Freddie Mercury? Wna'i gal y rownd gynta' fewn tra ma' nhw'n rhannu straeon am y byd theatr, celf a miwsig cyn coroni'r noson rownd y piano gyda jôcs ffiaidd ac yna canu Bohemian Rhapsody. Sa'n reiot.

Disgwyl i Daniel gael ei rownd i fewn... Richard Burton, gyda'i dad, Richard Jenkins yn y Colliers Arms, Pontrhydyfen yn 1953
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n "clean freak ac yn hwfro gormod!". Aparyntli.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi'n ei wneud?
Troi'r amps fyny i 11 ac ymgolli'n llwyr yn nhwrw byddarol fy hoff gitâr drydanol - y Fender Stratocaster.
Pa lun sy'n bwysig i chi a pham?

Nain a Taid Penycae
Mae ne filoedd o luniau'r plant ar fy ffôn a dwi'n edrych yn ôl arnyn nhw yn aml iawn ac yn trochi yn yr atgofion melys ohonyn nhw fel plant bach-bach ciwt. Ond, dwi 'di dewis hen lun o Nain a Taid Penycae.
Doeddwn i ddim yn eu nabod ond wrth edrych ar y llun dwi yn teimlo'i direidi, eu cariad at ei gilydd a'u hapusrwydd mewn oes arall. Dwi'n gallu teimlo nghysylltiad hefo nhw. Wn i ddim am y cyd-destun, pam fod hen nain a hen daid ar gefn sgwter na phryd dynnwyd y llun. Ond mae'n codi gwen a dwi yn gwybod mai gan yr hen daid ma' nghlustiau mawr wedi dŵad!
Petasech chi'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Jimi Hendrix - dewin y gitâr drydanol. Mellt a tharanau yn fy nwylo am foment.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl