Mam o Syria 'heb gael gwybod' am addysg Gymraeg i'w phlant

Yn dilyn ei phrofiad mae Zaina yn gwneud doethuriaeth ym maes hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wnaeth ffoi o Syria yn dweud bod neb wedi dweud wrthi bod addysg Gymraeg yn opsiwn pan ddaeth hi â'i phlant i Gymru yn 2019.
Yn ôl Zaina Aljumma, erbyn iddi fod yn ymwybodol bod addysg Gymraeg yn opsiwn roedd hi'n byw y tu allan i ffiniau bysiau'r ysgol Gymraeg leol.
Yn y cyfamser mae elusen Oasis yng Nghaerdydd yn dweud bod mwy o blant ffoaduriaid bellach yn cael eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ond bod "mwy o waith i'w wneud".
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.

"Mae fy mhlant yn ddwyieithog yn barod, yn siarad Arabeg a Saesneg felly byddai dysgu iaith newydd, y Gymraeg, wedi bod yn rhywbeth arbennig," meddai Zaina
Mae Zaina, mam sengl 36 oed, a'i meibion 10 ac 11 oed, ymhlith mwy nag 8,000 o ffoaduriaid yng Nghymru.
Mae wedi byw mewn 4 sir ond ar ôl iddi gyrraedd dywedodd "na wnaeth neb nac unrhyw gyngor ofyn os hoffai'r plant astudio mewn ysgolion Cymraeg".
"Doeddwn i ddim yn gwybod dim am hyn," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gefnogi plant i gael mynediad i addysg Gymraeg ond dyw'r cyngor ddim yn darparu'r cymorth i weithredu'r polisïau hynny," meddai.
'Dylai pawb sy'n byw yng Nghymru siarad Cymraeg'
Erbyn iddi ddod i wybod bod ysgolion Cymraeg yn bodoli roedd hi'n byw ym Mhontypridd ac y tu allan i ffiniau bysiau'r ysgol Gymraeg leol.
Dywedodd mai'r unig opsiwn oedd gyrru'r plant ei hun ac "fel mam sengl, sy'n gwneud PhD ac yn gwneud swydd arall doedd hynny ddim yn realistig".
"Dwi'n meddwl y dylai pawb sy'n byw yng Nghymru siarad Cymraeg," meddai a hithau'n dysgu Cymraeg.
"Ond yn anffodus doedd dim cyfle i fy mhlant ymuno ag ysgolion Cymraeg."
Ychwanegodd fe ddylai'r cyngor "feddwl am y teuluoedd sydd methu â gyrru eu plant i'r ysgolion" a "sut i wneud addysg Gymraeg yn fwy hygyrch".

Mae Kirran Lochhead-Strang, un o swyddogion elusen Oasis, yn hyrwyddo addysg Gymraeg
Yn ôl Oasis, elusen sy'n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd, mae nifer y teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n anfon eu plant i addysg Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Y rheswm am hynny, meddent, yw bod eu swyddogion integreiddio yn hyrwyddo addysg Gymraeg.
"Dydyn ni ddim yn gwneud dim byd chwyldroadol," meddai'r swyddog integreiddio Kirran Lochhead-Strang, "dim ond cael sgwrs am y Gymraeg, addysg cyfrwng Gymraeg a'r manteision."
Ychwanegodd "bod 'na gyfle arbennig o dda i ddenu mwy o blant at addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny drwy gael y sgyrsiau yna a rhannu arferion da".
'Mae plant yn mwynhau dysgu Cymraeg'
Dywedodd Kirran o Oasis: "Yn aml mae plant yn hapus iawn i siarad Cymraeg ac yn mwynhau dysgu a siarad Cymraeg a phan mae'r plant yn hapus mae'r rhieni'n hapus."
"Fel arfer dyw'r teuluoedd sy'n dod aton ni ddim yn ymwybodol bod addysg Gymraeg yn opsiwn ac felly mae tipyn o waith i'w wneud."

Mae Mathew nawr yn siarad tair iaith ac yn mwynhau yn yr ysgol yn ôl ei fam Luz
Mae Luz Marina Libreros Castaneda, wedi ffoi o Colombia gan gyrraedd Cymru yn 2024 ac mae ei mab Mathew sy'n 7 oed, bellach mewn addysg Gymraeg.
Ar ôl i Mathew gael lle yn Ysgol Gymraeg Hamadryad yng Nghaerdydd dywedodd "roeddwn i'n hapus iawn ei fod yn cael y gefnogaeth i ddysgu Cymraeg sy'n iaith hyfryd".
"Roeddwn i'n athrawes ac felly'n deall pwysigrwydd cyflwyno plant i ieithoedd gwahanol."

"Mae modd i blant ddysgu Cymraeg mewn tymor neu dymor a hanner" meddai Rhian James
Dywedodd arweinydd Uned Drochi Iaith Caerdydd, Rhian James, bod gwaith elusen Oasis yn hyrwyddo addysg Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
"Erbyn hyn mae bron 50% o'r dysgwyr sydd gyda ni yn yr uned cynradd yn geiswyr lloches neu'n ffoaduriaid.
"Os ydy pob awdurdod yn gwneud yr un peth â beth ni'n gallu ei wneud yng Nghaerdydd ac os yw elusennau eraill yn gallu cyfeirio teuluoedd at unedau trochi eraill dros Gymru - mi fyddai hynny'n fuddiol iawn," pwysleisiodd.
Mae Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod yn cydnabod pwysigrwydd addysg Gymraeg ac yn cynnig polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol i filoedd o ddisgyblion y tu hwnt i ofynion statudol Llywodraeth Cymru.
Yn ol Llywodraeth Cymru, nod Bil y Gymraeg ac Addysg yw rhoi cyfle teg i holl blant Cymru ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac mae'n darparu sail statudol ar gyfer y system drochi hwyr sy'n angenrheidiol i roi mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ar unrhyw adeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020