Canu yn y gwaed i Mary Hopkin a Jessica Lee Morgan

- Cyhoeddwyd
Ar 3 Mai 2025, mae'r gantores Mary Hopkin yn dathlu ei phenblwydd yn 75 oed.
Yn wreiddiol o Bontardawe, daeth i amlygrwydd byd-eang gyda'r gân Those Were The Days yn 1968.
Er ei bod hi'n byw ei bywyd allan o lygad y cyhoedd y dyddiau yma, dydi hi ddim wedi stopio canu a recordio, ac mae hi wedi pasio ei thalent ymlaen i'w phlant, gyda'r ddau hefyd yn gweithio yn y byd cerddoriaeth.
Yma, mae ei merch, Jessica Lee Morgan, yn rhoi cipolwg ar yrfa ei mam, sy'n estyn bron i 60 mlynedd, a sut mae ei gyrfa cerddorol ei hun wedi datblygu.
Oedd magwraeth dy fam ym Mhontardawe wedi cyfrannu tuag at ei gyrfa fel cantores?
Mae'r Cymry yn enwog am eu traddodiadau cerddorol, er mai fy mam oedd y cerddor proffesiynol cyntaf yn ei theulu.
Fel mae Mam yn ei ddweud ar ei gwefan, "Roedd y rhan fwyaf o blant fy nghenhedlaeth i yn cael eu hannog i ganu o oed ifanc, ac wedi hen arfer â sefyll ar gadair cegin i ganu i deulu a ffrindiau. Roedden nhw'n cystadlu'n rheolaidd mewn eisteddfodau ysgol a chenedlaethol, yn perfformio cerddoriaeth, barddoniaeth a drama, a roddodd hyder iddyn nhw ar lwyfan.
"Tydw i ddim yn cofio diwrnod nad oedd yn cynnwys naill ai cerddoriaeth neu farddoniaeth mewn rhyw fodd neu'i gilydd."
Byddai hi hefyd yn canu'n rheolaidd yng nghapel y Tabernacl o oed ifanc, ac yn cymryd yn ganiataol y byddai hi'n gwneud bywoliaeth iddi ei hun drwy ganu.
Yn yr ysgol, ar ôl dechrau gydag emynau yn y gwasanaeth bob bore, byddai'r plant yn cynnal cyngherddau yn ystod amser chwarae, i ddiddanu ei gilydd gyda'u hoff ganeuon. Pan oedd hi'n 13 oed, dechreuodd ddod â'i gitâr gyda hi i'r ysgol i ganu a chwarae i'w ffrindiau amser cinio, neu yn ystod sesiynau astudio yn neuadd yr ysgol.

Mary yn perfformio ar y rhaglen gerddoriaeth, Hob y Deri Dando
Mae hi wedi mwynhau creu cerddoriaeth gydag eraill o oed ifanc, meddai: "Pan o'n i tua 10, ar ôl Ysgol Sul, doedden ni ddim yn cael chwarae yn nhŷ fy ffrind, Marian. Felly yn lle, bydden ni a'n dwy ffrind gorau, Marlene a Menna (roedd pawb yn ein 'nabod fel y Bedair M) yn ymgynnull yn y parlwr a chanu emynau Cymraeg a'n hoff ganeuon mewn harmoni pedwar llais, a dysgu deuawdau piano newydd, yn mwynhau'r her a'r llawenydd pur o greu cerddoriaeth gyda'n gilydd."
Mae dy dad di, Tony Visconti, hefyd yn gerddor, felly oedd hi'n anochel y byddet ti'n gweithio yn y maes?
'Nes i drio fy ngorau i fod yn rebel, a dod yn gyfrifydd neu'n gyfreithiwr neu rywbeth defnyddiol, a dwi wedi cael nifer o yrfaoedd gwahanol gydag elusennau, yn y sector cyhoeddus ac o fewn gofal iechyd a lles...
Ond roedd cerddoriaeth bob amser yno, yn fy nhynnu i mewn, ac yn mynnu fy sylw, felly am wn i, roedd hi'n anochel. Hyd yn oed yn fwy i fy mrawd, Morgan Visconti; cerddoriaeth yw ei yrfa a'i fywyd ers y dechrau un.
Doedd yr un o'n rhieni wedi ein gwthio i'r cyfeiriad yma, ond pan ddaeth hi'n amlwg ein bod ni am ei wneud e beth bynnag, 'naethon nhw ein cefnogi a'n hannog ni i wneud pethau o safon.
Mae'r diwydiant cerddoriaeth yn adnabyddus am fod yn un anodd - gan dy fod wedi treulio dy fywyd yn gweld dy rieni yn y maes, oes gen ti well dealltwriaeth o sut mae pethau yn gweithio?
Byddai'r un rhiant yn y diwydiant yn dymuno ochr ddrwg y byd cerddorol ar eu plant, ac mae fy mam wedi fy rhybuddio fwy nag unwaith am ambell i beth, oherwydd ei phrofiad.
Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn mynd yn rhwystredig, pan 'dyn ni'n gweithio mor galed ar ein cerddoriaeth, ac ry'n ni'n teimlo ein bod ni ddim yn cael y gynulleidfa ry'n ni eisiau, ac ry'n ni'n teimlo hynny dros ein gilydd hefyd.
Mae fy ngwybodaeth i am y diwydiant cerddoriaeth yn llawer llawnach nag oedd un fy mam pan ddechreuodd hi, achos mod i wedi gweld profiadau fy rhieni. Ond mae'r diwydiant wedi newid yn aruthrol ers iddi ddechrau arni, ac mae hi'n her barhaus i geisio cadw lan.
Dyna pam 'nes i ysgrifennu fy llyfr, You Know What You Should Do?, i ddod â'n holl wybodaeth ynghyd a gobeithio helpu eraill, yn artistiaid ac yn gynulleidfa. Rydyn ni eisiau i'n cynulleidfaoedd ddeall y gwaith caled mae hi'n ei gymryd i gael ein cerddoriaeth atyn nhw.

Mae Jessica hefyd yn perfformio gyda'i thad, Tony Visconti
Fel y dywedodd ffrind yn ddiweddar, y peth gwaetha' ydi ei fod yn ddiwydiant o gwbl. Maen nhw'n canolbwyntio ar yr elw nid y celfyddyd. Ond, yma ac acw, mae'r celfyddyd go iawn yn torri drwyddo a phan alli di fod â rheolaeth dros hynny a chael dy dalu amdano, dyna pryd mae'n wych.
Oni bai am y diwydiant, byddai'r rhan fwyaf o gerddoriaeth ddim yn cael ei chlywed gan neb tu allan i stiwdio'r artist.
Mary Hopkin oedd un o'r artistiaid cyntaf i arwyddo i label recordio The Beatles, Apple Records, yn 1968. Sut y datblygodd ei gyrfa wedi hynny?
Cyn iddi arwyddo gyda Apple Records, roedd hi'n dewis ei chaneuon, fel campweithiau gwerin gan fawrion fel Pete Seeger a Joan Baez. Mae hi'n teimlo balchder mawr ei bod wedi derbyn Those Were The Days gan Paul McCartney, ac mae hi'n hoffi nifer o'r caneuon oddi ar ei halbwm gyntaf, Postcard.
Ar ôl hynny, doedd ganddi ddim rheolaeth dros ei chaneuon, ac roedd rhaid iddi ganu cân doedd hi wir ddim yn ei fwynhau yng nghystadleuaeth Eurovision yn 1970.
Ond wedyn, cafodd wneud ei hail albwm, Earth Song/Ocean Song; casgliad hardd o ganeuon gwerin cyfoes, wedi eu trefnu a'u cynhyrchu gan fy nhad, Tony Visconti.
Wrth hel atgofion am ei halbwm mewn blog ar ei gwefan, meddai, "Mae'n un y galla i ei chwarae heddiw heb fod â chywilydd, a dwi'n teimlo ei fod yn fy mhortreadu i (neu o leiaf, rhan dda ohona i) yn berffaith. Dwi dal i garu pob cân, ac roedd yr holl brofiad o wneud yr albwm yn hyfryd."

Mae Jessica yn perfformio'n aml gyda'i mam, Mary, a'i brawd, Morgan
Pan 'nes i awgrymu ein bod ni'n dechrau label, jest er mwyn iddi gael gwneud beth bynnag roedd hi eisiau, roedd hi'n frwdfrydig, achos roedd e'n rhoi rheolaeth iddi doedd hi ddim wedi ei gael o'r blaen, ac ry'n ni'n ymddiried yn ein gilydd.
Fe gytunon ni fod ganddi reolaeth gyfan gwbl, ei bod hi ddim yn gorfod gwneud cyfweliadau na 'chwaith yn mynd ar deithiau.
Pa genres o gerddoriaeth ydych chi'n mwynhau gweithio ynddyn nhw y dyddiau yma?
Beth bynnag sy'n ein hysbrydoli ar y pryd.
Mae albwm diweddaraf fy mam, Doodling, yn ystod o arddulliau. Roedd hi eisiau cymryd saib o ysgrifennu geiriau, ac mae hi wedi ysgrifennu darnau offerynnol a chorawl anhygoel. Rhai ysgafn, rhai haunting, rhai mawreddog. Roedden nhw wedi eu hysgrifennu gyda'r bwriad o gael darluniau gyda nhw, felly byddai hi'n wych eu defnyddio mewn ffilm.
Mae hi'n enwog fel cantores werin, a doedd hi fyth yn gyfforddus gyda'r caneuon pop roedd rhaid iddi eu canu yn ystod blynyddoedd Apple. Ond mae hi wedi gwneud albwm aruthrol gyda fy mrawd, Morgan, o'r enw You Look Familiar; mae ei drefniadau electronig e yn cyfuno'n arbennig gyda'i geiriau a'i llais hi.

Mae'r fam a'r ferch yn cydweithio ers blynyddoedd
Dwi'n gwrando ar a chanu pob mathau o arddulliau, ac oherwydd fod gen i fy label fy hun, Space Records (gyda fy mhartner, Christian Thomas) alla i wneud beth bynnag dwi eisiau, felly mae fy albymau yn mynd o werin i roc i ddawns electronig.
Mae sefydlu'r label Mary Hopkin Music wedi galluogi fy mam i wneud beth bynnag mae hi eisiau ei wneud hefyd, ac mae hi wedi arbrofi gyda bob math o genres.
Cafodd eich albwm gyda'ch gilydd, Two Hearts, ei ryddhau yn 2023 - sut beth ydi o i gydweithio gyda dy fam?
Rydyn ni wastad wedi cydweithio a chanu a chwarae ar ganeuon ein gilydd, ac wedi ysgrifennu ar y cyd hefyd. Ond o'n i eisiau gwneud albwm gyda hi oedd cystal â You Look Familiar, felly 'naethon ni dacluso ychydig ar ddeuawdau roedden ni wedi eu canu ers hir a chyd-gyfansoddi caneuon newydd. Dwi'n falch iawn o'r albwm yma.
Ry'n ni'n caru cydweithio, ond dydyn ni ddim rhoi amser hawdd i'n gilydd. Mae 'na ddadlau am elfennau technegol ac artistig, ond dim ond achos ein bod ni eisiau i'r darn fod yn berffaith. Ac os ydi'r naill ddim ar ei gorau, bydd y llall yn dweud hynny.
Ond dydi hi a fi ddim yn gallu canu gyda'n gilydd wrth un meicroffon y dyddiau yma, achos ein bod ni'n chwerthin gormod!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2024