Mandy Watkins: 'Bwlio yn yr ysgol yn dal i fy effeithio'

Mae Mandy Watkins yn wyneb cyfarwydd ar S4C a BBC Wales
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyflwynwraig Mandy Watkins wedi dweud bod cael ei bwlio yn yr ysgol yn dal i gael effaith arni ddegawdau yn ddiweddarach.
Dywedodd y dylunydd cartref bod y cyfnod wedi mynd yn ei flaen am dair blynedd, dros 30 mlynedd yn ôl, a'i bod yn dal i weld rhai o'r bobl fu'n gas tuag ati o gwmpas yr ardal heddiw.
Meddai: "Weithia dwi'n meddwl amdano fo a dwi'n meddwl 'pam ti'n dal i feddwl am hynna?' ond dwi'n meddwl dwi wastad wedi bod yn people pleaser, isho helpu, isho plesio, a ddim yn deall pobl yn bod yn annifyr."

Mandy Watkins gyda'i chyd-gyflwynwyr ar raglen Wales' Home of the Year
Yn enedigol o'r Fali, Ynys Môn, mae Mandy Watkins yn gweithio fel dylunydd cartref - interior designer - ac wedi cyflwyno'r rhaglenni Dan Do ar S4C a Wales' Home of the Year ar BBC Wales.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon dywed bod y bwlio wedi dechrau wedi iddi adael yr ysgol gynradd a mynd i'r ysgol uwchradd ym Modedern ar ddiwedd yr 1980au.
Dywedodd: "[Roedden nhw'n] galw enwau - ond roedd o'n relentless - ac ambell i bwsh. Be' oedd yn cael fi dwi'n meddwl oedd do'n i'm yn deall pam fasa rhywun yn gwneud hyn - doedd o ddim yn fy meddylfryd i.
"Wnaeth o gario 'mlaen am dair blynedd. Roedd o'n dod mewn pycsiau (cyfnodau) ond ro'n i o hyd yn meddwl 'sut mae o'n mynd i fod heddiw?'"
Dywedodd mai genethod oedd yn ei bwlio, a hynny'n cynnwys gwneud hwyl am ble roedd hi'n byw, difrodi ei soddgrwth pan oedd hi'n teithio ar y bws ysgol ar ddiwrnod gwersi offerynnau ac roedd hi'n cael ei thargedu yn yr ystafell newid ar ôl chwaraeon.
"O'n i'n gwisgo fest a dwi'n cofio mynd i mewn i'r cawodydd ac roedd pawb arall yn gwisgo bra," meddai.
"Wel doedd 'na ddim pwynt i fi wisgo bra... so wnaeth un ohonyn nhw luchio'r fest fewn a'i wneud o'n wlyb ac wedyn o'n i'n gorfod rhoi o yn fy mag a chogio… ac o'n i'n meddwl pam fasa chdi'n neud hynny i fi?"

Fe weithiodd Mandy Watkins gyda'r Cyngor Cefn Gwlad am 10 mlynedd cyn dechrau dylunio cartrefi, a bu'n rhedeg siop ym Mhorthaethwy tan y cyfnod clo
A hithau nawr yn fam i dri o blant, rhwng 14 a 19 oed, mae'n dweud ei bod yn bwysig trafod bwlio gyda phlant a phobl ifanc, yn enwedig gan fod y sefyllfa yn fwy cymhleth heddiw.
"Be' oedd yn braf adeg yna wrth gwrs - doedd gen i ddim ffôn. Pan o'n i'n dod adra o'n i'n saff. Mae be' sy'n medru digwydd dyddia yma yn chwalu mhen i," meddai.
Mae'r gyflwynwraig, sy'n rhedeg busnes dylunio cartref a gwerthu llenni a bleinds, yn dal i fyw yn ei hardal enedigol ac yn achlysurol yn gweld rhai o'r genethod oedd yn gas tuag ati yn yr ysgol.
Meddai: "Fyddai wrth fy modd yn sbïo nhw fyny a lawr a meddwl - 'maen nhw wedi effeithio fi, ond dwi'n olreit, dwi'n iawn. I'm doing fine, diolch yn fawr'."
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 1800 dydd Sul, 4 Mai neu ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Ebrill