Iolo Williams: 'Yr angerdd am fyd natur wedi bod yna erioed'

- Cyhoeddwyd
"Dwi wedi gweld y bywyd gwyllt yn diflannu o gefn gwlad a dwi'n angerddol bod ni'n ceisio cael llawer ohono yn ôl."
Mae Iolo Williams wedi gweithio ym maes cadwraeth ers dros 30 mlynedd.
Yn naturiaethwr ac awdur sy' fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd rhaglenni fel Springwatch ar y BBC ac am raglenni am yr Arctig Gwyllt a Trefi Gwyllt ar S4C, mae Iolo'n angerddol am drysorau bywyd natur Cymru.
Mewn cyfres newydd, Iolo: Natur Bregus Cymru, mae e'n rhybuddio bod eu colli yn bosib os nad ydyn ni'n cydnabod effaith newid hinsawdd a dynoliaeth ar natur. Ond mae hefyd yn codi calon wrth sôn am greaduriaid sy' wedi dychwelyd i Gymru ar ôl diflannu o'n tir am ganrifoedd.
Ysbrydoliaeth
Meddai am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gyfres newydd: "Dwi isho dangos i bobl Cymru a thu hwnt bod gynno ni drysorau byd natur, trysorau bywyd gwyllt go iawn yma yng Nghymru a dangos sut mae rhai ohonyn nhw mewn perygl a rhai ohonyn nhw yn hongian ymlaen yn llythrennol."
Ond mae hefyd yn llawenhau mewn rhai o'r rhyfeddodau mae wedi ei weld, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw: "Y ddau rhyfeddod daethon ni ar draws oedd, yn gyntaf, dod o hyd i bele goed mewn coeden yn y canolbarth allan yng ngolau dydd.
"Oeddan ni wedi rhoi ffrwythau ar dop y stwmpyn bach 'ma – yn llythrennol mewn 10 munud roedd y bele goed wedi dod allan a dechrau bwyta.
"Pan o'n i'n fachgen oedd 'na sôn am ambell i bele oedd yn cael ei weld ond weles i erioed un. Mae gwybod bod y bele goed yn ôl yng Nghymru – mae hwnna'n codi calon."
Afancod yn ôl
"Ond y peth mwya' trawiadol oedd dod o hyd i afanc yn y gwyllt. Tan ychydig fisoedd cyn i fi ddechrau ffilmio o'n i ddim yn gwybod bod 'na rai yn y gwyllt yng Nghymru.
"Yr afancod yn y gwyllt olaf i rywun weld yma oedd canrifoedd yn ôl – falle yn mynd yn ôl mor bell ag oes tywysogion Cymru. Bydden nhw wedi hela nhw. Maen nhw'n ran o'n hanes ni, roedd Gerallt Gymro yn sôn am weld afanc ar Afon Teifi.
"Erbyn y canol oesoedd doedd neb yn siŵr os oedd 'na rai ar ôl – ond maen nhw yn ôl yma a dwi wir yn gobeithio bod nhw nôl yma i aros.
"Dyna un o'r cyfrinachau – mae'n rhaid i ni ddod a sylw pobl at yr argyfwng ym myd natur ond maen bwysig bod ni'n dathlu ac ymfalchïo yn y newyddion da."

Neges
Mae Iolo'n angerddol am y peryglon mae byd natur yn ei wynebu a'r angen i weithredu: "Mewn ffordd yr un hen neges ydy hi ond mae'n rhaid i ni gario mlaen i roi y neges yna drosodd heb i bobl syrffedu.
"Achos dwi'n dechrau gweld pobl yn dweud 'yr hen treehuggers gwyrdd yma yn mynd ymlaen am gynhesu byd eang eto' felly mae'n bwysig bod ni'n cadw at y ffeithiau a'n rhoi o drosodd mewn ffordd mor bositif a gallwn ni – hynny yw, bod ni'n dathlu y llwyddiannau 'da ni wedi gael."
Y barcud coch
"Yr un amlycaf yng Nghymru ydy'r barcud coch sy' wedi dod nôl o abergofiant – erbyn heddiw mae'n gyffredin iawn yng Nghymru ac mae hwnna yn stori anhygoel.
"Dau beth sy'n gyfrifol – pobl 'nath ymyrryd ond pobl oedd ar fai amdanynt yn diflannu yn y lle cynta'. Mae newid rheolau wedi helpu ond mae wardeniaid a ffermwyr yn diogelu nythod yr adar wedi bod o gymorth anferthol. Mae pawb wedi dod at ei gilydd i drio helpu'r aderyn yma.
"Ac mae rhaid dathlu hynna.
"Mae Ynys Sgomer ar arfordir Sir Benfro yn cynnal tua hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw. Mae hwnna'n rhywbeth arall i ddathlu. Rhyngddo nhw mae tair ynys yng Nghymru – Ynys Sgomer, Ynys Sgogwm ac Ynys Enlli yn cynnal bron i dwy ran o dair o boblogaeth adar drycin Manaw y byd."

Angerdd
Un peth sy'n amlwg yn y gyfres yw angerdd Iolo am fyd natur sy'n mynd yn ôl i'w blentyndod yn ardal Llanwddyn yn nyffryn Efyrnwy.
Meddai: "Mae wedi bod yna erioed ers mod i'n fachgen bach. Roedd Mam a Dad yn wych – oedd Taid yn gymeriad a hanner ac roedd o wrth ei fodd yn cael bachgen bach yn mynd efo fo rownd y caeau, 'nath o ddysgu fi sut i ddal pysgod efo nwylo, pa blanhigion o'n i'n gallu bwyta. Mae'r angerdd wedi bod yna erioed.
"Ac un peth dwi'n dweud wrth bawb – peidiwch colli yr angerdd plentynnaidd sydd gennych chi. Gallai ddim cerdded heibio rhyw foncyff neu garreg fawr heb droi o o gwmpas. Dwi'n gobeithio neith hwnna aros nes mod i yn fy medd.
"Dwi'n sylweddoli beth ydan ni wedi ei golli ers pan oeddwn i'n fachgen bach. Caeau gwair go iawn, ddim y porfa difyw ma 'da ni'n ei weld heddiw.
"'Dan ni wedi colli dros 98% o gaeau gwair. Erbyn rŵan sulwair sy' bobman a does dim amser i bethau flodeuo na hadu, dyw'r adar ddim yn gallu nythu. Dwi wedi gweld y bywyd gwyllt yn diflannu o gefn gwlad a dwi'n angerddol bod ni'n ceisio cael llawer ohonyn nhw yn ôl.
"Rhaid i hwnna fynd ochr yn ochr efo'r tirfeddianwyr – yn ffermwyr, yn fforestwyr ac ati, nhw sy'n berchen y tir. Rhaid i ni weithio law yn llaw ond gallwn ni ddim cario ymlaen fel ydan ni'n neud.
"Dyw'r dewis ddim yna mwyach. Mae hyd yn oed y pobl yn erbyn cynhesu byd-eang yn gorfod derbyn fod y patrymau tywydd yn newid, bod hi'n gynhesach a'n wlypach."
Trysor Cymru
Mae'r gyfres newydd yn dangos rhai o'r cynefinoedd mwyaf unigryw sydd gennym ni yng Nghymru gan gynnwys coedwigoedd glaw Celtaidd. Felly beth yw trysor mwyaf Cymru, ym marn Iolo?
"Aderyn drycin Manaw ydy'r aderyn pwysicaf sydd gennon ni yn rhyngwladol," meddai.
"Mae rhai o'r cynefinoedd sy' gennym ni yn drysorau hefyd – mae gyda ni'r fforestydd glaw yma yn y gorllewin. Dim ond yn ddiweddar 'da ni wedi sylweddoli pa mor bwysig ydy rhain yn rhyngwladol.
"Does 'na ddim byd cweit fel mynd i goedwig coed derw aeddfed yn gynnar yn y bore a gwrando ar gôr y wig a gweld y mwsogl, y cen yn carpedu y coed. Mae'n wych."
Gwyliwch Iolo: Natur Bregus Cymru ar S4C ar nos Iau am 9.00 neu ar BBC iPlayer.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021