Lewis Vaughan Jones: Colli clyw, IVF a gyrfa ar sgrîn

- Cyhoeddwyd
Mae Lewis Vaughan Jones yn gyflwynydd ar raglenni newyddion y BBC ac yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd sianel newyddion y BBC.
Yn wreiddiol o Lechryd yng ngorllewin Cymru, mae wedi wynebu heriau yn ystod ei yrfa, gan golli ei glyw yn un glust, a dirywiad yn y glust arall.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Lewis i drafod ei heriau meddygol diweddar, ei fagwraeth a chariad at Gymru, a'i yrfa newyddiadurol.
Llechryd a Phenarth
"Cefais fy ngeni yng ngorllewin Cymru, ac o'n i'n byw yn Llechryd, pentref bach tu fas i Aberteifi," meddai Lewis.
"O'n i yno yn ystod fy addysg gynradd ac mae gen i atgofion melys iawn o Lechryd, ac mae gen i dal deulu yn yr ardal.
"Yna es i i Ysgol Uwchradd Stanwell ym Mhenarth, ac mae fy mêts i gyd nôl ym Mhenarth. Mae fy mam a llys-dad yng Nghaerdydd, felly pan dwi nôl yng Nghaerdydd rwy'n aros efo nhw yn ardal Pontcanna. Felly mae fy nghefndir i'n gymysgedd o Gaerdydd, Penarth a gorllewin Cymru.
"Dwi ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl yn anffodus - es i i'r ysgol gynradd yn Llechryd ac astudio fe'n yr ysgol wedyn. Mae fy mam yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl ond mae fy Nghymraeg i'n eitha' sylfaenol."

Ymunodd Lewis â'r BBC yn 2017 ac mae bellach yn wyneb cyfarwydd ar sianel newyddion y gorfforaeth
Aeth Lewis i Brifysgol Rhydychen i astudio PPE (Philosophy, Politics and Economics), cyn dod nôl i Gymru i astudio ymhellach a gweithio fel ymgynghorydd gwleidyddol ym Mae Caerdydd.
"Wedi i mi wneud cwrs ôl-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd a blwyddyn fel ymgynghorydd, 'nes i weithio i ITV Cymru. O'n i'n sylwebydd gwleidyddol yn y Cynulliad fel yr oedd ar y pryd – roedd e'n gyfnod cyffrous - datganoli, a'r sefydliad newydd yma'n digwydd ar fy stepen nrws i.
"'Nes i weithio i ITV Cymru am dair blynedd cyn cael swydd gyda ITV yn ganolog yn Llundain."
Colli clyw
Mae Lewis yn disgrifio'r profiad o golli ei glyw yn ei glust chwith tra roedd yn gweithio i'r BBC.
"Odd e'n sioc llwyr. Roedd gen i annwyd bach, dim hyd yn oed methu diwrnod o'r gwaith. 'Nes i deimlo bod fy nghlyw i'n mynd a meddwl mae'n rhaid mai'r annwyd sydd 'di blocio rhywbeth. Ond dim dyna oedd e.
"Es i o allu clywed yn hollol iawn i 0% o fewn tua 48 awr, ac es i i'r ysbyty 'chydig wythnosau wedyn a 'nath nhw ddweud 'iep, mae 'di mynd am byth, does 'na ddim byd allen ni ei wneud'.
"Doedden nhw ddim yn gwybod pam fod e 'di mynd, ond mae'n debyg rhyw feirws oedd 'di mynd mewn ac ymosod ar y nerfau. 'Nathon nhw hefyd ddweud 'y tinnitus ti'n clywed, does 'na ddim byd allen ni wneud am hynny chwaith, felly trïa peidio feddwl am y peth'.

Cyflwyno'r newyddion yn fyw o Baris
"Ar y dechrau, yn rhyfedd, y tinnitus oedd y peth gwaetha', ac mae gen i o o hyd, hyd yn oed nawr fel rwy'n siarad yn y cyfweliad yma. Os rhowch eich pen ar y glustog yn y nos mae fel bod yr ymennydd yn chwarae seiren yn uchel.
"Dim ond tinnitus oedd e, ond o'n i ddim yn gwybod sut i gario 'mlaen. O'n i newydd golli fy nghlyw ac fe ddylwn i 'di poeni mwy am hynny, ond oedd y tinnitus lot fwy gofidus. Fe gymerodd hi fisoedd i fi hyfforddi fy ymennydd i leihau effaith y tinnitus, a delio gyda'r emosiynau.
"'Dyn ni fel teulu yn cwrdd adeg y Chwe Gwlad, pawb yn hedfan nôl a mynd i'r dafarn, yna i dŷ bwyta ac i'r stadiwm... ma' nhw i gyd yn llefydd swnllyd, a dwi methu ymuno yn y sgwrs bellach.
"Mae hynny dal yn anodd i mi, i fod mewn restaurant neu mas ar achlysur cymdeithasol – mae'n deimlad mor unig i fod heb eich clyw, a ti'n teimlo'n fregus ac yn wirion rhywsut."
Dyfais ar ochr y pen
Mae Lewis yn defnyddio technoleg arbennig fel cymorth i'w helpu i glywed.
"Mae gen i implant yn ochr fy mhen – rwy'n ei wisgo drwy'r adeg. Mae'n hollol anhygoel, ac yn fy helpu i gynyddu'r hyn rwy'n gallu ei glywed. Dydy e ddim yn gweithio'n wych yng nghanol torf, ond mae'n gweithio'n grêt mewn stiwdio dawel.
"Rwy'n gwisgo un gwyn yn fwriadol fel ei fod yn sefyll mas, i godi ymwybyddiaeth ac rwy'n siarad amdano pan rwy'n cael cyfle, a dangos bod 'na dechnoleg mas 'na i helpu pobl. Dydy e ddim yn hollol berffaith ond ma'n lot o help."

Mae'r ddyfais i'w gweld yn glir ar ochr pen Lewis pan mae'n cyflwyno'r newyddion
"Dwi 'di cael llawdriniaeth brys ar ddechrau'r flwyddyn ar fy nghlust arall (clust dde), a aeth yn iawn diolch byth. Ond mae'n dangos bod hi'n frwydr barhaol imi ddal 'mlaen i'r clyw sydd gen i'n weddill.
"Does gen i ddim clyw o gwbl yn y fy nghlust chwith, ac roedd strwythur y glust dde'n dymchwel hefyd, felly roedd rhaid cael llawdriniaeth i achub y clyw naturiol sydd gen i ar ôl yn y glust yna. Yn rhyfedd, mae gen i dal un glust bach yn fwy na'r llall am fod y chwydd heb fynd lawr i gyd.
"Os fydd y glust dde'n mynd yr un ffordd â'r chwith bydd rhaid cael implant yr ochr yna hefyd, ond fydd e'n un ychydig yn wahanol. Felly mae 'na gynllun mewn lle i be bynnag ddigwyddith.
"Mae'r sefyllfa bresennol yn golygu mod i'n gallu plygio fewn tîm newyddion y BBC sydd yn y galeri, y cyfarwyddwr neu'r cynhyrchydd, yn syth i fewn i'r implant, felly rwy'n cael BBC News wedi'i weirio i fewn i fy ymennydd, yn bypassio fy nghlust."

Lewis yn syth wedi'r llawdriniaeth diweddar ar ei glust dde
Bywyd teuluol prysur
Roedd gwraig Lewis, Hannah Vaughan Jones, yn cyflwyno'r newyddion ar Sky News a CNN, ond mae hi wedi rhoi'r gorau i hynny ar y funud, ers geni eu mab.
Dywed Lewis fod cael plentyn wedi bod yn broses anodd, wedi blynyddoedd o rowndiau IVF - 15 rownd i gyd.
"Roedden ni lawr i'r cynnig olaf, yr embryo olaf, yr wy olaf, ond gawson ni ein bachgen bach, Sonny."
Mae oriau gwaith Lewis heddiw'n brysur tu hwnt, fel esboniai.
"Mae'n eitha' chaotic ar y funud achos rwy'n gwneud News at One, sy'n grêt, ond mae'n Salford. Mae'n gallu bod yn heriol achos rwy'n rhannu fy amser rhwng gweithio yn Salford a Llundain.
"Rwy'n gwneud y rhaglen newyddion yn Salford ar BBC1 amser cinio, a shiffts o ddwy neu bedair awr ar y sianel newyddion yn Llundain. Felly mae fy ngwraig druan (a mawr ddiolch iddi!) yn gorfod 'neud lan gyda'r rota sydd gen i."

Lewis gyda'i wraig, Hannah, a'i fab, Sonny
Dywed Lewis fod ei ddiddordeb mewn pobl a'r her o deledu byw yn rhoi gwefr iddo bob dydd yn ei waith. Ond mae'n dweud hefyd bod Cymry sydd wedi serennu yn y maes wedi rhoi hwb iddo.
"Mae cael esiamplau fel Jeremy Bowen, sy'n dod o Gaerdydd ac yn gweithio fel golygydd y Dwyrain Canol, neu'r Golygydd Rhyngwladol fel y mae nawr yn sicr yn cael dylanwad ar rywun - bydde wedi bod yng nghefn fy meddwl i pan o'n i'n iau.
"Dwi' n caru'r ffaith bo' fi'n gallu cyfweld â Jeremy, sydd o'n ardal i, yn fyw ar y newyddion heddiw."

Dychwelyd i Gymru?
"Ry'n ni'n hapus iawn ble ydyn ni nawr, ond ry'n ni'n siarad yn aml am ddod 'nôl i fyw i Gymru - mae fy llys-chwaer newydd symud nôl i Gaerdydd.
"Does 'na ddim job yna i fi ar hyn o bryd, ond mae BBC Cymru yn ehangu gwasanaethau bellach, felly gobeithio bydd 'na rôl imi yno rhyw ddydd, pwy a ŵyr!"
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2016