'Amseroedd aros i waethygu yn sgil y cynnydd i yswiriant gwladol'

Dr Rowena ChristmasFfynhonnell y llun, RCGP
Disgrifiad o’r llun,

Mae codiadau Yswiriant Gwladol i feddygon teulu yn "argyfwng llwyr", meddai Dr Rowena Christmas

  • Cyhoeddwyd

Fe all pobl orfod aros yn hirach i weld meddyg teulu yng Nghymru o ganlyniad i'r cynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol i gyflogwyr, yn ôl uwch feddyg.

Dywedodd Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) Cymru, fod y newidiadau a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rachel Reeves yn y Gyllideb yn teimlo fel "argyfwng llwyr" a "siom aruthrol".

Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw eisoes wedi darparu cyllid i gefnogi busnesau gyda'r cynnydd mewn yswiriant gwladol.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyn yn seiliedig ar gostau Lloegr yn hytrach na gwir anghenion Cymru a bod Downing Street wedi eu gadael gyda "diffyg sylweddol".

Yn wahanol i wasanaethau eraill y GIG, mae meddygfeydd yn gweithredu fel busnesau preifat ac yn cael eu hariannu gan gontractau'r llywodraeth, sy'n golygu nad ydynt wedi'u heithrio o'r cynnydd i yswiriant gwladol a ddaeth i rym fis diwethaf.

Bellach mae'n rhaid i bartneriaid meddygon teulu dalu yswiriant gwladol o 15% ar gyflogau dros £5,000 yn hytrach na 13.8% ar gyflogau dros £9,100.

'Sefyllfa mor drychinebus'

Dywedodd Dr Christmas, sy'n gweithio'n Sir Fynwy, fod toriadau cyllid, chwyddiant a'r cynnydd mewn costau byw wedi ei gwneud hi'n anodd i feddygon teulu ddal ati.

"Mae'n anodd bod mor besimistaidd, ond mae hon yn sefyllfa mor drychinebus sydd wedi dod allan o nunlle i ni," meddai.

Ychwanegodd y byddai'r gyfradd dreth newydd yn costio £20,000 y flwyddyn i'w meddygfa, gyda meddygfeydd mwy yn wynebu costau ychwanegol o hyd at £90,000.

 Rachel ReevesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y newidiadau i gyfraddau yswiriant gwladol eu cyhoeddi fel rhan o Gyllideb gyntaf Rachel Reeves

Ym mis Ionawr, fe bleidleisiodd pwyllgor meddygon teulu Cymru'r BMA o blaid derbyn cynnig cyflog newydd, sy'n cynnwys taliad untro o £23m gyda'r nod o sefydlogi meddygfeydd.

Dywedodd Dr Christmas fod y cytundeb newydd yn "rhyddhad" ond rhybuddiodd na fyddai'n datrys yr heriau hirdymor, gan alw hefyd am eithrio meddygfeydd o'r cynnydd i yswiriant gwladol.

"Os na allwn ni droi hynny'n gyllid rheolaidd, 'da ni'n ôl lle ddechreuon ni, neu mewn sefyllfa waeth hyd yn oed. Seibiant dros dro yw hyn," meddai.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod beth sydd orau i gleifion. Ond os ydyn ni'n gorfod canolbwyntio ar yr elfennau gwahanol yma i gyd, allwn ni ddim canolbwyntio ar wneud y gwaith o safon sydd ei angen i achub y GIG yn y tymor hir."

Dr Meleri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Meleri Evans fod diswyddiadau yn bosib yn ei meddygfa ar Ynys Môn

Dywedodd Dr Meleri Evans, meddyg teulu o Ynys Môn, ei bod hi'n disgwyl i'w meddygfa dalu rhwng £30,000 a £50,000 yn fwy bob blwyddyn.

"Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni newid y ffordd 'da ni'n gwneud busnes, a'r gwir amdani yw mai'r unig ffordd y gall partner meddyg teulu wneud hynny yw edrych ar leihau'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu," esboniodd.

"I'r mwyafrif o bobl mae hynny'n golygu lleihau costau staffio. Felly yn sicr fe fydd yna benderfyniadau anodd iawn, gan gynnwys diswyddiadau posib."

Mewn ymateb i'r Gyllideb newydd a phryderon cynyddol o fewn y proffesiwn, fe wnaeth pwyllgor meddygon teulu Cymru'r BMA gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni i adolygu'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2024-25.

'Diffyg sylweddol'

Dywedodd Llywodraeth y DU fod iechyd yn fater datganoledig ac yn fater i Lywodraeth Cymru, ond ychwanegodd fod gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi derbyn cyllid ychwanegol ar ben y £21bn ar gyfer newidiadau mewn taliadau yswiriant gwladol i gyflogwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein hamcangyfrif cychwynnol yw bod cyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn wynebu cost ychwanegol o £253m.

"Mae'r dull gweithredu y mae Llywodraeth y DU yn ei gymryd yn ein gadael ni â diffyg sylweddol."

Ychwanegodd y llefarydd y dylai'r cynnydd gael ei ariannu'n llawn gan San Steffan a'u bod yn pwyso ar y Trysorlys ar y mater hwn.