Lluniau: Theatr Fach Llangefni yn 70

Perfformiad o Gwalia Bach gan Wil Sam yn Theatr Fach, Llangefni, 1972Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad o Gwalia Bach gan Wil Sam yn Theatr Fach, Llangefni, 1972

  • Cyhoeddwyd

Mae eleni yn nodi 70 o flynyddoedd ers i theatr amatur Theatr Fach Llangefni agor ei drysau am y tro cyntaf.

Mae'r theatr, oedd yn arfer bod yn ystablau, wedi bod yn gartref i Gymdeithas Ddrama Llangefni ers yr 1950au.

Gweledigaeth gŵr o dde Cymru oedd Theatr Fach Llangefni, sef Francis George Fisher, gŵr di-Gymraeg o'r Bargoed aeth ati i ddysgu'r iaith.

Ar 3 Mai, 1955, aeth criw o wirfoddolwyr ati i drawsnewid yr adeilad, ac mae'r theatr wedi llwyfannu nifer o ddramâu a chynyrchiadau amrywiol bob blwyddyn ers hynny.

I nodi'r pen-blwydd arbennig, Cymru Fyw fu'n tyrchu'r archif am luniau o gynyrchiadau Theatr Fach Llangefni.

Cyflwyniad o Castell Martin gan D. T Davies yn Theatr Fach Llangefni yn 1961Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ymbincio ar gyfer cyflwyniad o Castell Martin gan D.T Davies yn Theatr Fach Llangefni yn 1961

Ar ôl yr ymbincio, amser perfformio! Rhai o gast Castell Martin ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl yr ymbincio, amser perfformio! Rhai o gast Castell Martin ar y llwyfan

Agoriad swyddogol llwyfan newydd Theatr Fach, Llangefni ar Ragfyr 7 1961. Ac yno i ddogfennu oedd y ffotograffydd Geoff CharlesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Agoriad swyddogol llwyfan newydd Theatr Fach, Llangefni ar 7 Rhagfyr,1961. Ac yno i ddogfennu oedd y ffotograffydd nodedig, Geoff Charles

Cwmni Theatr Fach Llangefni yn ymarfer drama a oedd i'w darlledu gan y BBC fis Ionawr 1962Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mynd o nerth i nerth! Cwmni Theatr Fach Llangefni yn ymarfer drama a oedd i'w darlledu gan y BBC ym mis Ionawr 1962

Cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni o A View from the Bridge gan Arthur Miller fis Tachwedd 1967Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni o A View from the Bridge gan Arthur Miller fis Tachwedd 1967

Perfformiad o ddrama John Gwilym Jones, Y Gŵr Llonydd, gan gwmni Theatr Fach, Llangefni. Yn y llun mae: Mair Jones, Rol Davies, Gwyn Jones, Leslie Williams, Kitty Owen, Margaret Charles Williams (Marged Esli), Anwen Williams, Charles Williams, J O Roberts, Ellen Roger Jones, y cynhyrchydd (yn eistedd) a John Gwilym Jones (de eithaf)Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad o ddrama John Gwilym Jones, Y Gŵr Llonydd, gan gwmni Theatr Fach, Llangefni fis Hydref 1969. Yn y llun mae: Mair Jones, Rol Davies, Gwyn Jones, Leslie Williams, Kitty Owen, Margaret Charles Williams (Marged Esli), Anwen Williams, Charles Williams, J.O Roberts, Ellen Roger Jones, y cynhyrchydd (yn eistedd) a John Gwilym Jones (dde eithaf)

Perfformiad o Gwalia Bach gan Wil Sam yn Theatr Fach, Llangefni, 1972Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad o Gwalia Bach gan Wil Sam yn Theatr Fach, Llangefni, 1972. Ac yn rhan o'r cast oedd Ellen Roger Jones ddaeth yn wyneb adnabyddus ar gyfresi S4C gan gynnwys Minafon a Gwely a Brecwast

Mae Theatr Fach Llangefni wedi denu cynulleidfaoedd o bell ac agos dros y blynyddoeddFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Fach Llangefni wedi denu cynulleidfaoedd o bell ac agos dros y blynyddoedd

Ac mae'r un peth yn wir heddiw. Dyma gynulleidfa'r Noson Lawen yn cymeradwyo yn 2024Ffynhonnell y llun, Phil Hen
Disgrifiad o’r llun,

Ac mae'r un peth yn wir heddiw. Dyma gynulleidfa'r Noson Lawen yn cymeradwyo yn 2024

Y Meddyg Esgyrn oedd cynhyrchiad mawr y theatr yn 2011Ffynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Y Meddyg Esgyrn oedd cynhyrchiad mawr y theatr yn 2011

Cafodd gast sioe Genod Calendr ddipyn o hwyl ar y llwyfan yn 2012Ffynhonnell y llun, Theatr Fach Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gast sioe Genod Calendr ddipyn o hwyl ar y llwyfan yn 2012

Mae panto blynyddol Theatr Fach wedi bod yn uchafbwynt dros y blynyddoedd diwethaf a bu Sindarela yn 2023 yn boblogaidd tu hwntFfynhonnell y llun, Phil Hen
Disgrifiad o’r llun,

Mae panto blynyddol Theatr Fach wedi bod yn uchafbwynt dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd dipyn o waith i'r adran wisgoedd a choluro ar gyfer sioe Sindarela yn 2023

Dathliadau Theatr Fach Llangefni yn 70 oed

Gwrandewch ar Ffion Dafis yn sgwrsio Marlyn Samuel am y dathliadau

Pynciau cysylltiedig