Ydy hi'n amser newid sut rydym ni'n trafod tywydd poeth?

- Cyhoeddwyd
Ddoe oedd diwrnod poethaf y flwyddyn yn y DU hyd yma, ac fe dorrodd record am dywydd poeth ar ddechrau mis Mai gafodd ei osod 35 mlynedd yn ôl.
Cafodd tymheredd o 29.3C ei gofnodi yn Llundain; 1.9C yn uwch na'r record blaenorol o 27.4C a gofnodwyd yn yr Alban yn ôl ym 1990.
Er bydd llawer yn falch o weld yr haul yn tywynnu mor gynnar yn y flwyddyn, nid yw o reidrwydd yn beth cadarnhaol o safbwynt newid hinsawdd.
'Tywydd braf i ddod'
Felly sut mae cyflwynwyr y tywydd yn mynd ati i adrodd am y tymheredd uchel tra hefyd yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd?
A yw hi'n amser ail-feddwl sut rydyn ni'n trafod cyfnodau poeth ac osgoi geirfa fel 'braf' a 'mwynhau'?
Fe ofynnodd Cymru Fyw am safbwyntiau rhai o gyflwynwyr tywydd y BBC.

Robin Owain Jones, Cyflwynydd Tywydd BBC Radio Cymru:
'Di o erioed 'di fy nharo i mewn gwirionedd pa mor bositif 'di'r eirfa wrth i ni drafod neu gyflwyno'r haul.
Ar lefel syml, 'di'r haul ddim hyd yn oed at ddant bawb – yn enwedig pan fydd hi'n dod at lefelau paill ac ati sy'n broblem arall yn ei hun.
Mae'r holl beth yn mynd o dan y radar pan fydden ni'n cyflwyno'r tywydd ond mewn gwirionedd, ella bod angen ystyried hyn fel rhan fwy o'r sgwrs.
'Dyn ni'n byw mewn cyfnod newydd lle mae'r tymhorau bron yn blurred – yn gweddu i mewn i'w gilydd lle nid oes gennym ni bedwar tymor diffiniedig fel yr oedd gennym ni o'r blaen.
Mae'r gaeafau'n gynhesach, a'r hafau'n wlypach, ac ein swydd ni yw cyfleu'r neges, ac nid y 'pam'.
Mae'n bryder i mi, fodd bynnag, y bydd yr ieithwedd ond yn newid pan y bydd hi'n llawer rhy hwyr. 'Dyn ni ond yn dechrau profi rhai o sgil-effeithiau'r newid yn ein hinsawdd, a ddim wir yn eu profi i'w llawn maint felly mae'n anoddach i rai gydnabod yr ochr negyddol.

Derek Brockway, Uwch-feteorolegydd a Chyflwynydd Tywydd BBC Wales:
Mae angen i ni fynd â'r bobl ar daith gyda ni.
Yn naturiol, rydyn ni'n cael cyfnodau cynnes yng nghanol mis Ebrill a Mai bob blwyddyn ac ar ôl gaeaf sy'n aml wedi bod yn dywyll, bydd pobl yn croesawu'r newid hwn.
Nid pawb sy'n hoff o'r haul, ond mae'n golygu y gall pobl fynd allan i ymgymryd â gweithgareddau newydd, gan wrth gwrs fod yn ofalus drwy yfed digonedd o ddŵr a rhoi eli haul amdanynt.
Mae'n rhaid i'n hiaith a'n geirfa ni newid pan fydd ton wres a thywydd poeth yn codi yng nghanol misoedd yr haf – bryd hynny gall effeithio ar iechyd pobl ifanc ac oedrannus ac mae dyletswydd arnom ni i fynegi difrifoldeb hynny.
Sue Charles, Cyflwynydd Tywydd BBC Wales:
Mae'n rhaid sicrhau'r cydbwysedd cywir a bod yn ofalus nad ydyn ni'n rhy negyddol.
Yn aml, ac yn enwedig ar ôl gaeaf hir lle bydd pobl yn dioddef o lefelau isel o fitamin D, mae angen i bobl fynd allan a mwynhau'r tywydd. O safbwynt tywydd yn unig – mae angen ei fwynhau, mae hynny'n beth da.
Ond mae angen i ni hefyd gydnabod bod cysylltiad posibl â'r newid mewn hinsawdd - er nid dyma ein swydd mewn gwirionedd. Mae angen i ni adrodd y ffeithiau, a pheidio â llywio'r ffyrdd y mae pobl yn byw neu'n ymddwyn.
Yn sicr, mae angen gofalu am ein hieithwedd.

Tymheredd poeth ar draws Ewrop ar Fai y 1af
Mis Ebrill mwyaf heulog ar gofnod
Mae ystadegau'r Swyddfa Dywydd yn dangos mai mis Ebrill eleni oedd y mwyaf heulog ar gofnod yn y DU ers 1910.
Wrth i'r blaned gynhesu, mae'r wlad yn profi tywydd poeth mwy eithafol tra bod tywydd oer iawn yn llai cyffredin.
Ym mis Gorffennaf 2022, profodd rhannau o'r DU 40C am y tro cyntaf ar gofnod.
Mae'r tywydd a gofnodwyd ddoe yn Llundain yn gynhesach na'r cofnodion a fu yng ngwledydd eraill yn Ewrop, gan gynnwys 26C yn Rhufain, a 22C yn ne Ffrainc.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn disgwyl i'n gaeafau barhau i fynd yn wlypach ar gyfartaledd wrth i'n hinsawdd newid, a gall ein hafau droi yn fwy sych.
Wrth i sefyllfa'r blaned newid, a fydd newid i'n hieithwedd wrth drafod tywydd yn y dyfodol?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018