Ceisio sefydlu eisteddfod flynyddol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp sy'n gobeithio trefnu eisteddfod flynyddol yng Nghaerdydd yn dweud mai'r nod yw cynnal yr un cyntaf mewn llai na 18 mis.
Cafodd y syniad ei drafod gan y grŵp mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd Plasmawr nos Lun.
Daeth y syniad yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.
Yn ôl Glenys Llewelyn, a drefnodd y cyfarfod, y bwriad oedd "cael pobl at ei gilydd i weld be' oedd y syniadau oedd ganddyn nhw".
"Oedden nhw eisiau eisteddfod leol? Eisteddfod gadeiriol? Pa leoliad? Pa ddyddiad? Beth fydden nhw'n hoffi ei gael yn yr eisteddfod? A gobeithio medru symud ymlaen o hynny wedyn," meddai.
"Ni'n gobeithio gallwn ni gynnal rhywbeth ar ffurf eisteddfod ym mis Ionawr 2020."
Hefyd yn y cyfarfod oedd Shân Crofft, Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
"Ni'n gallu helpu rhywfaint yn ariannol. Ond yn fwy na dim ma' lot o lyfrynnau gyda ni neu wybodaeth, enwau beirniaid, tips ar sut i gynnal eisteddfodau."
Bydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal fis nesaf er mwyn trafod rhagor o syniadau a sefydlu pwyllgor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2018