Trafod cynnal Eisteddfod aml-ddiwylliannol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae criw o bobl wedi penderfynu edrych ymhellach i'r posibilrwydd o sefydlu eisteddfod amlddiwylliannol mewn rhan o Gaerdydd.
Mae cyfarfod eisoes wedi'i gynnal i drafod y syniad o gynnal digwyddiad fyddai'n adlewyrchu cefndiroedd amrywiol pobl "o bedwar ban byd" sy'n byw yn ardaloedd Waunadda a Sblot.
Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni, Matt Spry, sydd hefyd yn trefnu cyrsiau Cymraeg ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ardaloedd difreintiedig y brifddinas.
Dywedodd eu bod yn "anelu at drefnu'r eisteddfod gyntaf y flwyddyn nesaf, a manteisio ar y buzz" wedi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
'Buzz yr Eisteddfod'
Fe gafodd y syniad, meddai, ar ôl gweld pobl "o bob math o gefndir... gan gynnwys cwpl o geiswyr lloches sy'n dysgu Cymraeg" yn mwynhau "awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar" yn ffair haf Ysgol Gymraeg Glan Morfa yn Sblot.
Dywedodd y byddai eisteddfod "yn rhywbeth y gall pobl ganolbwyntio arno" oherwydd mae'n anodd ar brydiau i rai ddod i gyfarfodydd, gwersi, gweithdai a gweithgareddau rheolaidd.
"Maen nhw'n byw bywydau mor ansefydlog," meddai. "Mae rhai, efallai, yn aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref. Mae rhai wedi cael eu gwrthod gan y Swyddfa Gartref ac yn gorfod sortio pethe allan."
"Ry'n ni eisiau trefnu eisteddfod sy'n dathlu pobl ardal amlieithog, amlddiwylliannol Waunadda a Sblot, ond hefyd bod yr iaith Gymraeg yno ac yn perthyn i bawb.
Dywedodd fod dros 40 o bobl - y nifer fwyaf o Affrica - wedi ymuno ag o leiaf un o'r gweithgareddau mae'n eu trefnu, ac mae rhwng chwech ac wyth "wedi dangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg".
'Digon o ddiddordeb'
Roedd 11 o geiswyr lloches wedi ymweld â Gŵyl Gymraeg i Ddysgwyr Sain Ffagan - Ar Lafar - ym mis Ebrill, ac mae rhai wedi bod i'r Senedd ym Mae Caerdydd yn i weld cyfarfod llawn o ACau.
Man cychwyn oedd y cyfarfod cyntaf, meddai, i ddechrau trafod y syniadau ac mae'n ymddangos fod digon o ddiddordeb.
"Dwi'n anelu ar y flwyddyn nesaf a manteisio ar y buzz wedi'r 'Steddfod yng Nghaerdydd, a gobeithio bydd mwy o bobl a cheiswyr lloches yn ymddiddori yn y Gymraeg."
Mae Mr Spry yn wreiddiol o Ddyfnaint ac yn dweud bod siarad Cymraeg ers dechrau dysgu'r iaith bron i dair blynedd yn ôl wedi newid ei fywyd.
Ychwanegodd mai ei fwriad yw "cynnal eisteddfod i ddathlu amrywiaeth yr ardal ac i ddathlu'r Gymraeg sy'n gallu ein huno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd1 Awst 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018