Sylwi er mwyn peidio sylwi
- Cyhoeddwyd
Roeddwn i'n gwylio'r ffilm Groundhog Day y dydd o'r blaen a, chyn i chi ofyn, na, dydw i ddim yn gwneud hynny bob dydd!
Mae'r ffilm yn chwarter canrif oed erbyn hyn ac ar y cyfan dyw hi ddim wedi dyddio'n wael ond mae un peth sy'n drawiadol iawn o'i gwylio trwy lygaid 2018.
Does 'na ddim un cymeriad o unrhyw bwys yn y ffilm nad ydynt yn wyn, yn heterorywiol ac yn abl eu cyrff.
I fod yn deg, hyd heddiw mae 98.8% o boblogaeth y Punxsutawney go iawn yn wyn a go brin fod bariau hoyw yn britho stryd fawr tref o ryw chwe mil o bobol. Serch hynny, go brin y byddai unrhyw gyfarwyddwr ffilm heddiw yn fodlon â'r diffyg amrywiaeth a chynrychiolaeth ymhlith ei gast.
Mae pethau felly yn bwysig yn ein hoes ni. Dyna pam yr oedd Leanne Wood yn llygad ei lle trwy ddweud bod y ffaith nad oes menyw yn arwain un o bleidiau'r Cynulliad yn gam yn ôl. Ar y llaw arall mae enw menyw wedi bod ar y papur ym mhob un o'r rasys arweinyddol eleni. Cam ymlaen, tybiwn i.
Ar yr un pryd does fawr ddim wedi ei gwneud o'r ffaith bod gan y Cynulliad arweinydd plaid sy'n agored hoyw am y tro cyntaf. Fel 'na ddylasai pethau fod, wrth reswm. Wedi'r cyfan, ar un adeg roedd arweinyddion tair o bleidiau'r Alban yn hoyw. Felly hefyd, Prif Weinidog Iwerddon.
Ond mae 'na eironi yn fan hyn, fi'n meddwl. Y cam cyntaf tuag at beidio sylwi ar ryw, rhywioldeb, hil neu anabledd yw sylwi os oes 'na ddiffyg.
Yn hynny o beth, mae'r ffaith bod Adam Price yn hoyw yn amherthnasol ond mae'r ffaith ei fod ef ac arweinwyr y pleidiau eraill i gyd yn ddynion yn berthnasol iawn, ac yn broblem.