Sêr rygbi'n 'falch' o gyfrannu at waith ymchwil banc bio
- Cyhoeddwyd
Dyw hi ddim yn anarferol gweld Lloyd Williams yn rhoi o'i orau ar y cae hyfforddi neu'r maes chwarae, ond mae mewnwr Gleision Caerdydd hefyd wedi bod yn cyfrannu i ymchwil meddygol yng Nghymru.
"'Dwi'n falch i fod yn rhan o brosiect mor enfawr," meddai cyn-fewnwr Cymru.
"'Dwi'n falch hefyd fod gwlad mor fach yn dangos esiampl - mae'n bwysig i ni fel gwlad ac fel pobol."
Ond nid sôn am gyfraniad ariannol elusen ymchwil mae Lloyd. Mae e a'i gyd-chwaraewyr wedi bod yn cyfrannu samplau o'u gwaed.
Dywedodd Dan Jones, pennaeth adran feddygol y Gleision: "Ddechre'r tymor fel arfer, ry'n ni'n mynd trwy'r garfan i gyd i asesu anafiadau a pha mor barod yw'r bois i ymarfer - ac wrth i ni fynd drwy'r broses honno eleni fe wnaeth y bechgyn roi profion gwaed i Fanc Bio Prifysgol Caerdydd."
Fydd samplau'r chwaraewyr yn cael eu cadw mewn canolfan gwerth £1.6m o bunnau ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Y tu fewn mae rhai o oergelloedd a rhewgelloedd mwya' soffistigedig y byd.
Mae'r rhain yn gallu cadw samplau - yn cynnwys gwaed, poer, wrin a meinweoedd ar dymheredd o -80C, sydd bedair gwaith yn oerach na rhewgell arferol.
Mewn ystafell arall mae tanciau nitrogen hylifol sydd gryn dipyn yn oerach eto, sef -177C - sy'n golygu bod modd cadw'r samplau sydd ynddyn nhw am ddegawdau os oes angen.
"Oherwydd bod hyn yn fuddsoddiad ac yn ymrwymiad hir dymor, mae'n gyfle i ni gynnal y math o astudiaethau lle mae modd dilyn cleifion a phobl iach drwy gydol eu bywydau, ac mae hynny'n hynod o ddefnyddiol," meddai'r Athro Phil Stephens, sy'n arwain y prosiect.
Mae'r banc bio newydd yn gasgliadau o samplau sydd eisoes yn bodoli yn y brifysgol, gan gynnwys samplau gan gleifion â chyflyrau penodol fel canser a phroblemau aren neu'r ymennydd.
Ond mae'r ymchwilwyr yn awyddus i gasglu miloedd o samplau newydd gan unigolion iach - fel chwaraewyr y Gleision.
O ystyried eu bod nhw'n barod i dderbyn cyfraniad gen i, mae'n amlwg nad athletwyr elît yn unig sydd o ddiddordeb.
Ar ôl llenwi ffurflen datganiad a llenwi holiadur ynglŷn â'm ffordd o fyw, rwy'n cyfrannu poer.
Mae'r sampl wedyn yn cael ei rhannu'n naw sampl wahanol i'w defnyddio mewn prosiectau ymchwil sydd wedi eu dewis yn ofalus.
"Drwy geisio dod â thomen o samplau efo'i gilydd, allwn ni weld beth sy'n debyg mewn cleifion iach a chleifion ag afiechydon penodol," meddai'r Dr Emyr Lloyd Evans, sy'n uwch ddarlithydd biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Ond yn allweddol allwn ni gymharu'r gwahaniaeth bychain mewn genynnau allai arwain at driniaethau newydd."
Y gobaith yw y bydd cael un o fanciau bio gorau'r byd yn y brifddinas nid yn unig yn elwa cleifion ond yn denu ymchwilwyr i Gymru hefyd.
Mae'r staff yn bendant y bydd y samplau yn hollol ddiogel, ac ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhannu all ganiatáu i roddwyr gael eu hadnabod.
Felly mae'n sampl i yn ymuno ag eraill yn y storfa.
Cyfraniad bach i'r ymdrech i helpu gwyddonwyr ddarganfod, atal a thrin afiechydon am genedlaethau i ddod.