Cymro'n cael ei saethu'n farw yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Marc SuttonFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Sutton ei saethu tra'n seiclo drwy'r Alpau

Mae seiclwr o Gymru wedi marw ar ôl cael ei saethu gan heliwr ym mynyddoedd yr Alpau.

Mae swyddogion yn Montriond wedi cyhoeddi mai Mark Sutton, 34 oed, oedd y dyn a'i fod yn dod yn wreiddiol o Gaerffili.

Roedd Mr Sutton yn berchen ar fwyty yn nhref Les Gets ac ar gefn ei feic ar lwybr seiclo poblogaidd pan gafodd ei saethu nos Sadwrn.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw'n rhoi cymorth a chyngor i'w deulu.

Cafodd dyn 22 oed, a oedd yn aelod o grŵp hela, ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn dioddef o effeithiau sioc.

Mae e bellach yn cael ei holi ar amheuaeth o ddynladdiad.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ei dudalen Facebook roedd Marc Sutton newydd agor bwyty yn nhref Les Gets