BBC Cymru yn ymddiheuro am ffugio sain torf gemau rygbi

  • Cyhoeddwyd
rygbi
Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru wedi ymddiheuro am y camgymeriad

Mae BBC Cymru wedi ymddiheuro ac wedi'i gorfodi i dynnu uchafbwyntiau fideo o gêm yn Uwch Gynghrair y Principality lawr o'u gwefan ar ôl i swn ffug o dorf gael ei ychwanegu at y lluniau.

Mae'r gorfforaeth wedi cynyddu darllediadau ac uchafbwyntiau o'r Uwch Gynghrair yng Nghymru ar ôl colli'r hawliau darlledu i ddangos gemau yn y Pro14.

Mae'r BBC bellach yn darlledu gêm fyw ar nos Wener gydag uchafbwyntiau o weddill y gemau yn cael eu dangos ar raglen Scrum V ar ddydd Sul.

Ond roedd hi'n ymddangos fod pecynnau uchafbwyntiau ar wefan BBC Wales dros y penwythnos yn cynnwys yr un effeithiau sain o dorf ar gyfer yr holl gemau.

'Ymddiheuro'

Er gwaethaf niferoedd amrywiol o ran torfeydd ym mhob un o'r gemau, roedd pob cais yn cynnwys sŵn bloedd uchel a chymeradwyaeth gan y dorf.

Fe wnaeth BBC Cymru ddatgan eu bwriad i ail gyhoeddi'r fideo, a dywedodd llefarydd wrth bapur newydd The Times fod y fideo "wedi'i gyhoeddi mewn camgymeriad, a bydd fideo newydd yn cael ei gyhoeddi".

Mae gan y BBC ganllawiau ynglŷn â ffugio synau neu luniau o ddigwyddiadau byw.

Ychwanegodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn derbyn na ddylai hyn wedi digwydd ac rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad."