Ble Mae'r Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Rwyf wedi bod yn pendroni ynghylch y post yma oherwydd dydw i ddim ar y cyfan yn ystyried fy hun yn blismon iaith. Cymerwch y sylw yma felly fel cwyn fach gan newyddiadurwr rhwystredig yn hytrach na chondemniad o'r pulpud.
Un o'r pynciau dan sylw ar O'r Bae yfory fydd cynllun y Llywodraeth i sefydlu Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae'r cynllun yn un uchelgeisiol a chyffrous sydd heb dderbyn y sylw mae'n haeddu.
Roedd y ddadl ynghylch y cyhoeddiad yn un ddifyr hefyd. Cawsom gyfeiriad gan y Gweinidog, Alun Davies, at y ffaith bod nifer o'r Siartwyr wnaeth orymdeithio o Flaenau Gwent i Gasnewydd yn Gymry uniaith tra bod llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd, yn ymhyfrydu yn y ffaith mai ei hen ewythr, Ap Hefin o Aberdâr, oedd awdur geiriau "I Bob Un Sydd Ffyddlon".
Fe fyddai wedi bod yn braf cael cynnwys y clipiau yna ar y rhaglen yfory. Dydyn ni ddim am wneud hynny am reswm syml. Er eu bod yn trafod Cymreictod y cymoedd, dewisodd Dai ac Alun wneud hynny yn Saesneg.
Gan fod Alun a Dai ymhlith y goreuon am ddefnyddio'r iaith yn y Siambr, dydw i ddim am fod yn orfeirniadol yn fan hyn ond mae 'na ychydig bach o batrwm yn datblygu, mae gen i ofn.
Cymerwch sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog rhyw awr cyn datganiad Alun.
Cafwyd cwestiwn gan Suzy Davies ynghylch addysg Gymraeg. Yn Saesneg y gofynnwyd y cwestiwn hwnnw.
Yn yr un modd, yn ystod yr ymrafael rhwng arweinwyr y pleidiau, ac eithrio ychydig eiriau o gydymdeimlad a dioddefwyr ystorm Callum, Saesneg a ddefnyddiwyd er bod Paul Davies, Adam Price a Carwyn Jones i gyd yn Gymry rhugl.
Does dim bai ar Carwyn am hynny, gyda llaw. Fel Rhodri Morgan o'i flaen, mae'r Prif Weinidog yn ymateb yn yr iaith y mae'r holwr yn dewis ei defnyddio. Ar ysgwyddau Paul ac Adam mae'r cyfrifoldeb.
Gai awgrymu'n garedig y byddai o gymorth i newyddiadurwyr Cymraeg pe bai'r ddau arweinydd yn gofyn o leiaf un o'u cwestiynau yn eu mamiaith. Jyst gofyn.