Atgyweirio clychau Eglwys Sant Pedr yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd

Cafodd y clychau prsennol eu prynu ganol y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg
Bydd y gwaith o atgyweirio wyth cloch Eglwys Sant Pedr yn Rhuthun yn dechrau yn fuan wedi i grant o £96,000 gael ei roi at y gwaith.
Bydd y grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a chyfraniadau eraill yn cyfrannu at y gost o £191,000 sydd ei angen at y gwaith.
Mae cloch wedi'i chanu yn Eglwys Sant Pedr ers 1654 a chafodd y clychau presennol eu gosod ar yr adeilad ganol y 19eg ganrif.
Yn ogystal ag atgyweirio'r clychau bydd yr arian yn talu am hyfforddi cenhedlaeth newydd o bobl i ganu'r clychau.
Yn ôl Peter Furniss o Gymdeithas Canwyr Cloch y Gogledd mae'r clychau wedi cael eu hesgeuluso a'r tro diwethaf iddynt gael eu canu yn rheolaidd oedd yn 1977.

Mae Peter Furniss wedi bod yn rhoi cyngor arbenigol i'r prosiect
Dywedodd Mr Furniss: "Mae crac mawr yn y bumed gloch ond y broblem fwyaf yw'r ffrâm sy'n dal y clychau. Wrth i'r clychau gael eu canu mae'r ffrâm yn symud.
"Ar hyn o bryd mae'n waith anodd canu'r clychau ond unwaith i'r gwaith atgyweirio ddigwydd gall plentyn 10 oed neu berson 90 a hŷn wneud y gwaith."
Bydd y clychau'n cael eu hatgyweirio yn Loughborough - yn yr union le y'u gwnaed yn y 19eg ganrif.

Un o'r clychau a fydd yn teithio i Loughborough ar gyfer gwaith atgyweirio
Er nad yw'r clychau wedi canu'n rheolaidd ers 1977 mi gawsant eu canu ar 12 Hydref eleni er mwyn nodi dechrau digwyddiadau yn nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Mai 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013