Tudur Owen: 'Storm fawr o dristwch ac o alar'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl yn 2016 aeth Tudur Owen a'i deulu ar drip i ogledd Ffrainc i olrhain hanes hen ewythr iddo.
Roedd Iolo Griffiths yn un o Gymry Lerpwl, ac yn ymladd i'r Royal Lancashire Regiment yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd Iolo ei ladd ym mrwydr y Somme.
Ar drothwy Rhyfelgân, rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru i gofio'r Cadoediad, bu Tudur yn sgwrsio gyda Cymru Fyw am beth mae'r cofio yn ei olygu iddo ef:
"Mae'r teimladau am feddwl am y rhai a gollwyd yn y rhyfeloedd i gyd yn gymysg i mi, ac i bawb arall mae'n siŵr.
"Tra 'da ni'n cofio ac yn diolch iddyn nhw am yr aberth, mae rhywun hefyd yn meddwl am y gwastraff ac yn gofyn y cwestiwn 'pam oedd rhaid i oreuon y genhedlaeth yna fynd a diflannu? Pam fod 'na genhedlaeth o ddynion rhan fwya', a merched, wedi mynd ar goll?'
"Pan ti'n gweld yr elfennau militaraidd sydd o gwmpas y cofio, mae hwnnw'n ei wneud o'n anodd i mi, a dwi'n meddwl i lot o deuluoedd, achos does gyno ni ddim cysylltiad efo'r byd militaraidd.
"Doedd gan ynta' ddim 'chwaith - Iolo - tan iddo fo fynd i ryfel. Mae'r ochr yna o'r cofio yn rhywbeth estron. Roedden nhw'n deimladau cymysg iawn, iawn, iawn.
"Y teimlad mwya' wrth gwrs oedd y tristwch. Nid yn unig am rheiny gollodd eu bywydau, ond dros y teuluoedd.
"Be' wnaeth fy nharo i fwya' oedd sefyll yn y fynwent 'ma, a mor bell ag oeddet ti'n gallu ei weld, jyst y cerrig beddi 'ma. A sylweddoli fod y geiria' oedd wedi'u sgwennu ar y cerrig beddi wedi cael eu dewis gan famau'r hogia 'ma.
"Mamau oedd yn dewis y geiriau. Ac mi oedd hynny jyst ar gyfer y cyrff roedden nhw wedi'u darganfod. Roedd hynny wedyn yn agor y drws. Wrth gwrs roedd gan bob un o rhain fam a thad a brodyr a chwiorydd.' A hwnnw, jyst yn ei wneud o'n storm fawr o dristwch ac o alar."
Bydd Tudur yn un o'r amryw gyflwynwyr fydd yn adrodd monologau arbennig ar raglen Rhyfelgân ar BBC Radio Cymru...o safbwyntiau gwahanol bobl; mam, nyrs, milwr, a gwrthwynebydd.