Wrecsam i herio Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr

  • Cyhoeddwyd
cwpan FAFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd dau glwb o Gymru'n wynebu'i gilydd yn ail rownd Cwpan FA Lloegr eleni.

Cafodd Wrecsam a Chasnewydd eu dewis i herio'i gilydd wrth i'r enwau ddod allan o'r het ddydd Llun.

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae ar y Cae Ras ar benwythnos 30 Tachwedd i 3 Rhagfyr.

Bydd yr enillydd yn cyrraedd y drydedd rownd - pan fydd timau'r Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth yn ymuno â'r gystadleuaeth.

Yn y rownd gyntaf ddydd Sadwrn fe wnaeth Casnewydd drechu CPD Heddlu'r Met, a dydd Sul roedd Wrecsam yn drech na Weston Super Mare.

Mae Casnewydd ar hyn o bryd yn chweched yn Adran Dau, tra bod Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol, sydd un haen yn is.