Sylfaenydd cylchgrawn Golwg i adael y cwmni wedi 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae sylfaenydd un o gylchgronau mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yn "camu'n ôl yn llwyr o reoli'r cwmni".
Fe sefydlodd Dylan Iorwerth y cylchgrawn Golwg ym mis Medi 1988.
Ers ei sefydlu mae'r cwmni wedi ehangu i gynnwys gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 ac mae cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o wefannau lleol dan y faner Bro360.
Yn ôl Mr Iorwerth, y prif reswm mae'n cymryd cam yn ôl yw "er lles y cwmni allu datblygu at y dyfodol".
Fe gafodd hysbyseb i olynu Mr Iorwerth fel Prif Weithredwr ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Dywedodd Mr Iorwerth wrth BBC Cymru Fyw: "Roedd hyn yn fater o beth sydd orau i'r cwmni a gwybod pryd ydi'r amser iawn i drosglwyddo.
"Mae'n amser cael rhywun efo syniadau newydd a chael cyfeiriad newydd, yn enwedig rŵan fod Bro360 yn digwydd, mae 'na gyfleoedd mawr ac mae'n amser da i rywun newydd ddod fewn.
"Mae'r cwmni angen rhywun sy'n nes at y dechnoleg ddiweddara efo'r gobaith o geisio ehangu Bro360."
Ychwanegodd y byddai'n parhau i weithio i'r cwmni yn ystod y cyfnod trosglwyddo ac y bydd yna barhad o fewn y cwmni gan fod dau o'r cyfarwyddwyr yn parhau.
"Mi fydd yna barhad. Mi fydd Enid Jones ac Owain Schiavone yn parhau fel cyfarwyddwyr felly mae'r cwmni mewn dwylo sicr," meddai.
Mae'r cwmni'n gobeithio penodi Prif Weithredwr newydd yn y flwyddyn newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018