Pencampwriaethau Ewrop: Grŵp anodd i dîm dan-21 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed dan-21 Cymru yn wynebu talcen caled i ennill eu lle ym Mhencampwriaethau dan-21 Ewrop yn 2021 ar ôl cael eu rhoi yn yr un grŵp â'r Almaen a Gwlad Belg.
Y ddwy wlad arall y bydd Cymru'n eu herio yng Ngrŵp 9 ydy Bosnia-Herzegovina a Moldofa.
Grŵp 9 yw'r unig un sydd â dim ond pum tîm, tra bod chwech yn yr wyth grŵp arall.
Roedd rheolwr y tîm dan-21, Robert Page, wedi teithio i Nyon, y Swistir, i weld yr enwau'n dod allan o'r het.
Bydd enillwyr y grŵp yn hawlio eu lle yn y rowndiau terfynol yn Hwngari a Slofenia, tra bo rhai o'r timau sy'n gorffen yn ail yn eu grŵp yn gallu sicrhau eu lle trwy'r gemau ail-gyfle.
Fe fydd y gemau grŵp yn cael eu chwarae rhwng mis Mawrth 2019 a Hydref 2020, gyda'r gemau ail-gyfle'n cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2020.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal pob dwy flynedd, ond ni wnaeth Cymru lwyddo i sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol 2019 yn Yr Eidal.
Yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer y bencampwriaeth honno fe wnaeth Cymru orffen yn bedwerydd allan o chwe gwlad.