Gohirio gêm Casnewydd ac MK Dons

  • Cyhoeddwyd
Rodney ParadeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd y gêm rhwng Casnewydd ac MK Dons, y tîm ar frig yr Ail Adran, ei gohirio oherwydd y tywydd ddydd Sadwrn.

Yn 2007 cafodd £750,000 wedi ei wario ar system i atal dŵr rhag coni ar wyneb y cae yn Rodney Parade, ond roedd y glaw trwm ddydd Sadwrn yn ormod.

Does dim dyddiad newydd wedi ei drefnu ar gyfer chwarae'r gêm.