Brexit: 'Trafodaethau ar gynnal refferendwm arall'

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Chris Bryant: Am gael refferendwm arall

Mae aelod seneddol Llafur amlwg wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi cwrdd ag aelod blaenllaw o lywodraeth Theresa May er mwyn trafod camau nesaf Brexit, gan gynnwys cynnal refferendwm arall.

Dywedodd Chris Bryant, AS Rhondda, ei fod wedi cael trafodaeth gyda David Lidington, am y camau nesaf.

Mae Mr Bryant, sydd am i'r DU aros yn yr Undeb Ewropeaidd, yn dweud ei fod am roi "taw ar y myth" y byddai nifer o aelodau seneddol Llafur yn cefnogi cynlluniau Theresa May ynglyn â Brexit.

Mae ef am weld refferendwm arall yn cael ei gynnal.

Polisi swyddogol y Blaid Lafur yw pwyso am Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd Mr Bryant: "Dyw Brexit ddim yn symud. Dyw'r UE ddim am ildio. Ni all y prif weinidog gael y senedd i gymeradwyo ei chynllun. Ni all y Torïaid gael gwared ar eu harweinydd... ac mae'r cloc yn tician."

Bore ddydd Sul dywedodd Liam Fox, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol y Llywodraeth, wrth y BBC y byddai refferendwm arall yn arwain at ragor o rwygiadau yn y DU ac y byddai hefyd yn annemocrataidd.