Diffyg sylw BBC Cymru i bleidlais Brexit yn 'destun siom'

  • Cyhoeddwyd
BBC

Mae Llywydd y Cynulliad wedi gofyn wrth BBC Cymru i egluro pam nad oedd sylw yn ei phrif raglenni newyddion teledu i "un o'r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Senedd".

Daw'r alwad mewn llythyr gan Elin Jones at gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies a Chyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth, Tony Hall.

Mae'n "destun siom", medd Ms Jones, nad oedd sylw i'r bleidlais yn y cynulliad ar 4 Rhagfyr ar Gytundeb Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar raglenni Wales Today a Newyddion 9, a bod ymdriniaeth BBC Scotland o bleidlais debyg yn Senedd Yr Alban y diwrnod canlynol yn llawer cryfach.

Dywedodd BBC Cymru y bydden nhw'n ymateb i'r llythyr "maes o law" ond bod "sylw helaeth" wedi bod i'r bleidlais "ar draws nifer o wasanaethau BBC Cymru".

Roedd y cynnig yn gwrthod cytundeb Brexit Theresa May ac yn galw ar y DU i aros o fewn Marchnad Sengl ac undeb tollau'r UE.

Cafodd ei gymeradwyo o 34 pleidlais i 16, ond doedd y canlyniad ddim yn gorfodi Llywodraeth y DU i weithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymdriniaeth BBC Scotland yn fwy trylwyr, medd Elin Jones, na'r hyn a gafodd ei ddarlledu yng Nghymru

Dywed Elin Jones yn ei llythyr: "Hon oedd un o'r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Senedd ac roedd absenoldeb adlewyrchiad o hyn yn rhaglenni Wales Today a Newyddion 9 ar y diwrnod hwnnw yn destun siom.

"Mewn cyferbyniad, roedd allbwn BBC Scotland ar y diwrnod canlynol (5 Rhagfyr) pan gynhaliodd Senedd yr Alban eu pleidlais hwy ar y Cytundeb Ymadael wedi ei ddominyddu gan y mater.

"Dyma'r brif stori ar Drivetime, Radio Scotland gydag eglurhad trylwyr o ystyr y bleidlais, dyfyniadau o areithiau pob plaid, a dadansoddi."

Mae Ms Jones yn gofyn am eglurhad gan BBC Cymru "pam na chredwyd fod pleidlais mor arwyddocaol yn y Cynulliad yn berthnasol i gynulleidfaoedd Newyddion 9 a Wales Today".

Ychwanegodd bod yna wahoddiad i ohebwyr a newyddiadurwyr y BBC gael eu diweddaru ar ddatblygiadau Brexit mewn sesiynau briffio cyson ffurfiol yn y flwyddyn gan swyddogion cyfathrebu'r cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford wnaeth arwain y drafodaeth ar ran Llywodraeth Cymru

'Cyfrifoldeb'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod y ddwy bleidlais yn gyfle prin "i wneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng y ffordd mae straeon am Senedd Cymru a Senedd yr Alban yn cael eu trin gan y BBC".

"Yr un oedd y stori yn y ddwy wlad fan hyn, sef bod y ddwy Senedd ddatganoledig wedi gwrthod Bargen Brexit Theresa May," meddai, "ond tra'r oedd hyn yn brif stori yn yr Alban, cafodd ei hanwybyddu'n llwyr fwy neu lai gan BBC Cymru.

"Mae gan y BBC Cymru gyfrifoldeb statudol i ddarparu newyddion gwleidyddol perthnasol i bobl yng Nghymru ond dyma engraifft glir o fethiant llwyr i wneud hynny.

"Dylai penaethiaid BBC Cymru yn awr gymryd cyfrifoldeb personol dros sicrhau bod holl blatfformau'r gorfforaeth yn rhoi sylw teilwng i straeon o'r Cynulliad ac yn trin y sefydliad â dyledus barch."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym wedi derbyn llythyr y Llywydd a byddwn yn ymateb maes o law, ond mae'n werth nodi y rhoddwyd sylw helaeth i'r bleidlais hon ar draws nifer o wasanaethau BBC Cymru."