Diwedd parcio di-dâl y Nadolig i yrwyr Gwynedd?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib na fydd siopwyr yng Ngwynedd yn elwa o barcio di-dâl yn Nadolig 2020 wrth i'r cyngor sir geisio rhagor o arbedion eleni.
Fis diwethaf roedd gyrwyr yn gallu parcio am ddim ym meysydd parcio'r cyngor rhwng 15 a 26 Rhagfyr, wrth i'r cyngor annog pobl i siopa'n lleol yn nhrefi'r sir.
Cred swyddogion fod y cynllun yn golygu colli incwm o £45,000 i goffrau'r sir.
Ond mae ei ddileu yn un o'r opsiynau y bydd cynghorwyr yn ei ystyried wrth geisio arbed hyd at £12.9m yn y flwyddyn ariannol 2019/20.
Dywed nifer o berchnogion busnesau y byddai penderfyniad o'r fath yn andwyol.
'Angen deffro i'r broblem'
Dywedodd Endaf Cooke, perchennog siop sglodion J&C yng Nghaernarfon, bod y syniad yn un hurt.
"Mae busnesau'r stryd fawr eisoes yn dioddef, ac mae yna 11 o siopau gwag ar Stryd Llyn," meddai.
"Mae angen i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ddeffro i'r broblem... mae Tesco a chanolfannau siopa ar gyrion trefi yn cynnig parcio di-dâl."
Cyn i'r cynghorwyr wneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth, fe fydd yr awdurdod yn cynnal ymgynghoriad ar 65 o wahanol gynigion i arbed arian.
"Fe fydd manylion yr ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn fuan," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019