Bellamy yn gadael dros dro fel hyfforddwr wedi honiadau

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bellamy - a enillodd 78 o gapiau dros Gymru - hefyd yn sylwebydd cyson ar Sky Sports

Mae Craig Bellamy wedi dweud y bydd yn camu o'r neilltu fel hyfforddwr gyda Chaerdydd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i honiadau yn ei erbyn.

Daw hynny yn dilyn cwynion yn erbyn cyn-ymosodwr Cymru, sydd bellach yn hyfforddwr ar dîm dan-18 yr Adar Gleision.

Yn ôl adroddiadau, mae rhieni chwaraewr ifanc wedi gwneud honiadau yn Bellamy am ei ymddygiad tuag at eu mab, sydd bellach wedi gadael y clwb.

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Bellamy ei fod yn gwadu'r honiadau "yn llwyr".

Ond dywedodd ei fod yn "deall yr angen" i'r clwb gynnal ymchwiliad, a'i fod felly wedi cynnig peidio hyfforddi am y tro nes i'r ymchwiliad ddod i ben.

"Yn amlwg rydw i wedi fy nhristau gan yr honiadau a'r ffordd y cawson nhw eu gwneud, ac rwy'n eu gwadu'n llwyr," meddai.

"Rydw i'n llawn ddisgwyl dychwelyd i fy rôl hyfforddi ac wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch fy safle."

Y gred yw bod prif weithredwr y clwb, Ken Choo a'r cadeirydd Mehmet Dalman yn ystyried manylion y cwynion cyn penderfynu ar y camau nesaf.