Gwerthwr ceir 'wedi twyllo cwsmeriaid yn fwriadol'
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon wedi clywed bod gwerthwr ceir o'r gogledd wedi "twyllo cwsmeriaid yn fwriadol" er mwyn "cynnal ei fusnes oedd yn methu".
Mae Gwyn Meirion Roberts, sy'n 50 oed ac o Gyffordd Llandudno, yn gwadu 24 o gyhuddiadau o dwyll ac un o fasnachu tywyllodrus.
Daeth cwmni Menai Vehicle Solutions (MVS) ar gyrion Bangor i ben yn 2015, ac ar ddiwrnod agoriadol yr achos fe ddywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad bod y diffynnydd wedi cynnig "cytundebau oedd yn llythrennol yn rhy dda i fod yn wir".
Yn ôl Matthew Corbett Jones fe wnaeth hynny er mwyn "cael gafael ar arian cwsmeriaid" dan "addewidion ffug y byddai ceir newydd yn cael eu cyflenwi".
Clywodd y llys bod Mr Roberts wedi sefydlu'r cwmni ym Mharc Menai yn 2008, gan ddenu nifer o gwsmeriaid cwmnïau eraill a oedd wedi ei gyflogi yn y gorffennol.
Ond mae'r erlyniad yn honni bod y busnes yn "anghynaliadwy" erbyn 2015 ac mai'r unig gwestiwn oedd "pryd" y byddai'r busnes yn mynd i'r wal.
Clywodd y llys bod un cwsmer wedi dod i gytundeb i gyfnewid Audi am gar Porsche ym Mai 2015 ar gost o £15,000 ond ni wnaeth dderbyn y Porsche.
Honnir i'r diffynnydd gynnig y fargen er mwyn cael arian i sicrhau parhad y busnes, er bod potensial iddo golli £11,000.
Mae Mr Roberts yn gwadu'r cyhuddiadau.
Mae'r erlyniad yn dweud y bydd tua 35 o gwsmeriaid unigol yn rhoi tystiolaeth ac mae disgwyl i'r achos bara am chwech wythnos.