Gwerthwr ceir yn gwadu twyllo cwsmeriaid cyn mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae gwerthwr ceir o Gyffordd Llandudno wedi gwadu twyllo cwsmeriaid ac ymddwyn yn anonest wrth ddechrau rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae Gwyn Meirion Roberts, 50, wedi pledio'n ddieuog i 24 cyhuddiad o dwyll ac un o fasnachu'n dwyllodrus.
Mae'r erlyniad yn dadlau ei fod wedi cynnig bargeinion "anghredadwy" i gwsmeriaid i gael arian pan aeth ei fusnes ar gyrion Bangor i drafferthion yn 2015.
Ond fe wadodd Mr Roberts hynny, gan ddweud bod siomi cwsmeriaid yn sgil methiant cwmni Menai Vehicle Solutions wedi ei "lorio".
Clywodd y llys fod ganddo 30 mlynedd o brofiad yn y maes gwerthu ceir, a bod y cyfnod cyn cwymp y cwmni a sefydlodd yn 2008 wedi bod yn heriol.
Effaith sgandal VW
Dywedodd Mr Roberts wrth y rheithgor bod sgandal allyriadau Volkswagen "wedi cael effaith enfawr" ar gwsmeriaid, gan olygu eu bod "yn betrusgar" ac yn oedi cyn prynu ceir "cyn i'r sefyllfa gael ei datrys".
Yn yr un cyfnod, roedd tad Mr Roberts wedi cael gwybod bod canser arno, ac roedd y diffynnydd ei hun wedi cael trafferthion iechyd ac wedi llewygu yn y gweithle ddwywaith.
Mae'r erlyniad yn honni ei fod wedi trefnu bargeinion "anghredadwy o dda" i gael arian oddi wrth ei gwsmeriaid i "gynnal" ei fusnes.
Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, John Phillpots, wrtho a oedd wedi "trefnu unrhyw gytundebu gan ddisgwyl y byddech chi'n mynd i'r wal" fe atebodd: "Na, Crist, na."
Gofynnwyd wedyn sut roedd yn teimlo wrth fynd trwy'r broses ffurfiol o ddiddymu'r cwmni a sylweddoli y byddai rhai cwsmeriaid heb gar, ac fe ddywedodd: "Ro'n i wedi fy llorio."
Mae'r achos yn parhau.