Cannoedd heb drydan yn ne Cymru ar ôl gwyntoedd cryfion
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tua 1,000 o gartrefi yn ne Cymru golli eu cyflenwad trydan a cafodd ffyrdd ar draws y wlad wedi'u rhwystro yn dilyn gwyntoedd cryfion dros nos.
Fe wnaeth y cartrefi golli pŵer fore Sul, ac roedd tua 500 o'r rheiny yn ardal Tymbl yn Sir Gâr.
Cafodd yr A470 ei rhwystro'n rhannol yn Llanrwst wedi i goeden ddisgyn ar y ffordd.
Yn Aberporth yng Ngheredigion fe welwyd hyrddiadau o hyd at 69mya.
Mae cyfyngiadau cyflymder hefyd wedi bod mewn grym ar yr M48 dros Bont Hafren a'r A55 dros Bont Britannia.
Cafodd rhai fferïau eu canslo rhwng Caergybi a Dulyn ac roedd oedi ar y rhwydwaith trenau hefyd.