Arestio dau arall wedi marwolaeth y troseddwr rhyw Ian Watkins

Yn 2013 cafodd Ian Watkins o Bontypridd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Ian Watkins, y troseddwr rhyw oedd yn ganwr y grŵp roc o Gymru, Lostprophets.
Roedd Watkins o Bontypridd wedi'i garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Bu farw yn dilyn ymosodiad yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref, ac mae dau ddyn oedd yn y carchar wedi eu cyhuddo o'i lofruddiaeth.
Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Mawrth bod dau ddyn arall, carcharorion 23 a 39 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Dywedodd yr heddlu y byddai'r ddau ddyn yn cael eu holi yn ystod y dydd.
Yn gynharach yn y mis cafodd Rico Gedel a Samuel Dodsworth eu cyhuddo o lofruddiaeth Watkins, ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn gael ei gynnal fis Mai 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023