Eira'n achosi rhagor o drafferthion ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Llanuwchllyn fore Mercher

Mae eira wedi achosi trafferthion ar draws Cymru am yr ail ddiwrnod yn olynol.

Mae ymhell dros 100 o ysgolion ar gau, gan gynnwys dros 70 yn Sir Y Fflint, ac mae amodau yn anodd i yrwyr.

Mae gweddill y gogledd, rhannau o Bowys a Sir Gaerfyrddin hefyd ymhlith y llefydd sydd wedi eu taro waethaf.

Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am rew i ben am 11:00 ddydd Mercher, ond mae'r arbenigwyr yn darogan amodau tebyg yn y deuddydd nesaf.

Edrych yn ôl ar drafferthion ben bore Mercher

Roedd disgwyl cawodydd yn ystod y bore, gyda'r posibilrwydd iddi luwchio mewn mannau.

Y cyngor yn gyffredinol yw i bobl ganatáu mwy o amser na'r arfer i deithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Aradr eira yn clirio'r ffordd yn Nolwyddelan

Mae nifer o ffyrdd naill ai ar gau yn rhannol, neu'n destun rhybudd am amodau gyrru anodd neu beryglus.

  • A55 - rhwng Abergele a Phensarn;

  • A546 - Rhodfa Maesdu, Gogarth, Conwy

  • A4244 - Glasinfryn i Frynrefail

  • A487 - Penygroes a Llanwnda

  • A5 - Rhostrehwfa, Ynys Môn

  • A494 - Yr Wyddgrug

  • A547 - Rhwng Rhuddlan a Dyserth

  • A525 - Ffordd Rhuthun, Dinbych

  • A470 - Rhwng Derwn Deg a Gellilydan yng Ngwynedd

  • A55 - Pentre Helygain yn Sir y Fflint

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i helpu grŵp o bobl oedd wedi eu dal gan gwymp eira bnawn Mawrth.

Roedd un o ohonyn nhw wedi torri coes yn y cwymp, a bu'n rhaid ei gludo o'r mynydd mewn hofrennydd.

Disgrifiad,

Eira trwm yn ardal Penllyn

Rhybudd tywydd pellach

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn arall:

  • am rew rhwng 18:00 nos Fercher a 10:00 fore Iau yn y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio tua'r de ddwyrain; ac

  • am rew ac eira rhwng 13:00 ddydd Iau a 21:00 nos Wener.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map rhybudd melyn nos Iau a dydd Gwener

Ddydd Mawrth, bu'n rhaid cau Bwlch Sychnant yng Nghonwy, Bwlch yr Oerddrws ger Dolgellau a'r A487 rhwng Machynlleth a thafarn y Cross Foxes.

Bu'n rhaid defnyddio aradr eira ar yr A44 yn ardal Aberystwyth ar ôl i geir fynd yn sownd.

Aeth ceir a lorri yn sownd yn yr eira ar yr A487 hefyd yn ardal Dinas Mawddwy, ac roedd cyngor i osgoi Bwlch y Crimea ym Mlaenau Ffestiniog.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgol Castell Alun yn Sir y Fflint yn un o dros 100 gafodd eu cau ddydd Mercher