Ar y trên i Afonwen
- Cyhoeddwyd
Trwy gyd-ddigwyddiad heddiw roedd Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn trafod yr un pwnc, neu ddwy agwedd o'r un pwnc. Coeliwch neu beidio nid Brexit oedd y pwnc hwnnw ond ein gwasanaeth trenau. Gwasanaethau'r Great Western Railway oedd dan y lach yn San Steffan tra roedd gwleidyddion y Bae yn edrych ar wasanaethau mwy eang gan gynnwys rhai Trafnidiaeth Cymru, cwmni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Nawr mae ceisio gweithio allan pwy sy'n gyfrifol am beth ar ein rheilffyrdd ni yn dasg anodd ar y naw. Yn achos GWR honnodd yr aelod seneddol, Stephen Doughty bod y cwmni, sy'n rhedeg y trenau, Network Rail, sy'n berchen yr isadeiledd ac Adran Drafnidiaeth Whitehall yn tueddu i feio eu gilydd am broblemau'r rhwydwaith.
Cyn bo hir fe fydd y sefyllfa hyd yn oed yn fwy cymhleth wrth i berchnogaeth peth, ond nid y cyfan o'r isadeiledd, gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru. O'r hydref nesaf ymlaen fe fydd ambell i lein reilffordd yn eiddo i Lywodraeth Cymru ond eraill yn nwylo Network Rail. Sut ar y ddaear y mae'r teithiwr druan i fod i wybod at bwy i gwyno pan aiff pethau o le?
Gallai'r ateb i'r cwestiwn yna fod yn allweddol yn etholiad Cynulliad 2021.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio brand Trafnidiaeth Cymru ar wasanaethau trên Cymru a'r Gororau yn hytrach na chuddio y tu ôl i frand y contractwyr masnachol, Keolis Amey, yn un dewr a dweud y lleiaf. Mae'n un a allasai gostio'n ddrud i Lafur Cymru os nad yw'r gwasanaeth at ddant yr etholwyr wrth iddyn nhw fwrw eu pleidleisiau.
Ychydig iawn o'r gwelliannau sydd wedi eu haddo sy'n debyg o gael eu gwireddu cyn yr etholiad. Yn 2022 y bydd y rhan fwyaf o'r trenau newydd yn cyrraedd, er enghraifft. O safbwynt gwleidyddiaeth bleidiol mae'r amseru yn ofnadwy i Lafur. Gallaf ond ddyfynnu Sir Humphrey Appleby.
"Controversial only means this will loose you votes. Courageous means this will loose you the election."