Pwysau ariannol yn gorfodi clwb cerddoriaeth fyw i gau
- Cyhoeddwyd
Bydd clwb sydd wedi cynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw yn Wrecsam ers 20 mlynedd yn cau ei ddrysau am y tro olaf nos Sadwrn oherwydd "pwysau ariannol".
Caeodd clwb Central Station fis Medi diwethaf, ond ail-agorodd ym mis Rhagfyr o dan enw newydd - The Live Rooms.
Ond cadarnhaodd y clwb ar ei dudalen Facebook mai nos Sadwrn fydd ei noson olaf, ac y bydd yn cau "gyda chalon drom".
"Fel nifer o leoliadau cerddoriaeth eraill ar draws Cymru, yn y blynyddoedd diwethaf mae'r pwysau ariannol sydd ynghlwm â rhedeg safle cerddoriaeth newydd, heb gefnogaeth allanol, yn anodd a heriol iawn, ac yn anffodus fedrwn ni ddim ei gynnal bellach," meddai'r datganiad.
"Os ydych chi eisiau dod i ddweud ffarwel wrth y lle, y penwythnos yma fydd y cyfle olaf.
"Mae hi wedi bod yn bleser llwyr a lot o hwyl i gynnal sioeau yma - gobeithio eich bod chithau wedi eu mwynhau hefyd."
Mae nifer o enwau mawr y sîn gerddoriaeth wedi perfformio yno dros y blynyddoedd, yn cynnwys Robert Plant a Kasabian ac mae artistiaid Cymreig hefyd wedi ymddangos yno, gyda Catfish & The Bottlemen a Gruff Rhys yn eu plith.
Dyma'r ergyd ddiweddaraf i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, yn dilyn cau clybiau'r Parrot yng Nghaerfyrddin, a Gwdihŵ yng Nghaerdydd ers dechrau'r flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019