Cynlluniau i dorri 380 o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Wikipedia

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 380 o swyddi dros gyfnod o bum mlynedd wrth geisio gwneud arbedion o £20m.

Mewn e-bost at staff y brifysgol, dywedodd rheolwyr nad oedd modd diystyru diswyddiadau gorfodol.

Ond ychwanegodd bod y brifysgol yn gobeithio y bydd yr arbedion yn deillio o ddiswyddiadau gwirfoddol a rheolaeth recriwtio.

Roedd y ddogfen a elwir yn 'Trawsnewid Caerdydd' hefyd yn argymell newid i adrannau academaidd a rhai eraill o fewn y brifysgol.

Fe gafodd y cynlluniau eu derbyn gan gorff rheoli'r brifysgol ddydd Llun.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys:

  • Lleihau maint y campws, y rhent a chostau defnyddiau;

  • Creu ysgol ieithyddol, lenyddol ac arferion creadigol newydd gan uno'r ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Ieithoedd Modern a Chymraeg;

  • Ymchwilio sut mae daearyddiaeth (dynol a ffisegol) yn cael ei gyflwyno orau yn y brifysgol;

  • Ailstrwythuro Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r brifysgol gyhoeddi colled o £22.8m yn 2017/18, pan roedd cynnydd o 5.2% yn y gwariant ond fe gododd yr incwm o 2.5%.

Bwriad y brifysgol yw cael nôl i orwerth erbyn 2019/20 gan dorri costau staffio o 59.6% i ddim mwy na 56% o incwm erbyn 2022/23.

"Mae'r brifysgol yn cynllunio i leihau lefelau staffio presennol 7%, o 380 (staff llawn amser) dros gyfnod o bum mlynedd," yn ôl yr Is-Ganghellor, Colin Riordan yn yr e-bost.

"Mae modd gwneud hyn wrth gymharu'r nifer cyfartalog o drosiad staff gwirfoddol o 6%."

Ychwanegodd: "Mae 'Trawsnewid Caerdydd' yn gynllun o newid, fydd yn ein galluogi i osod arian angenrheidiol i gydfynd gyda ffyrdd dyfeisgar o addysgu ac ymchwilio.

"Rydym yn cynnig cyrsiau newydd mewn cyfnod o heriau byd eang fel Gwyddoniaeth Data a Gwyddoniaeth Amgylcheddol.

"Rydym hefyd yn cynnig ysgol ieithyddol, lenyddol ac arferion creadigol i gynnig cyfleoedd newydd."