Euro 2021: Merched Cymru yn yr un grŵp a Gogledd Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Cyn bencampwyr y byd, Norwy, yw'r prif ddetholion yng ngrŵp tîm Merched Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2021.
Roedd Cymru yn yr ail bot, gyda Belarws, Gogledd Iwerddon a'r Ynysoedd Ffaro yn ymuno â nhw yng Ngrŵp C.
Bydd Merched Cymru yn gobeithio adeiladu ar ymgyrch calonogol iawn y llynedd a welodd dîm Jayne Ludlow yn gorffen yn ail i Loegr yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Cafodd y grwpiau eu dewis mewn seremoni arbennig yn Nyon, Y Swistir ddydd Iau.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2021.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.