Adran Dau: Colchester 3-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Casnewydd wedi trechu Colchester 2-0 pan fu'r ddau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Rodney Parade ym mis Tachwedd
Colli'n drwm wnaeth Casnewydd yn Colchester ddydd Sadwrn a thrwy hynny dringodd y tîm cartref i blith y timau yn y safleoedd ail-gyfle yn yr ail adran bêl-droed.
Prin fod Casnewydd yn y gêm wedi i Szmodics rwydo'r bêl ar ôl ugain munud gydag ergyd o'i droed dde.
Yna, gyda'r chwiban am hanner amser ar fin cael ei chwythu fe aeth ergyd Courtney Senior i rwyd Casnewydd a gadael yr Alltudion ddwy gôl ar ei hôl hi.
Parhau a wnaeth gofid Casnewydd gan fod Colchester wedi sgorio eto ar ôl 63 munud - dangosodd Frank Nouble ei ddoniau ar ymyl y cwrt cosbi cyn rhoi ergyd ragorol i gornel uchaf y rhwyd.
Doedd dim modd i'r tîm o Went ddod yn ôl i'r gem ac i raddau roedd eu cyfle i gyrraedd y gemau ail-gyfle wedi ei ddifa hefyd.
Mae Casnewydd bellach yn ddeuddegfed yn y gynghrair ac mae nhw saith pwynt islaw y timau yn safleoedd yr ail-gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2018